Sgwrs agoriadol gan yr Athro KANOH Seiji

Cyflwynir y sesiwn hwn ar ZOOM.

Unwaith derbynnir eich cais cofrestru, byddwn yn anfon cod mynediad ac fe wnawn eich atgoffa ddwywaith cyn y digwyddiad.

Mae nifer o animeiddwyr Japaneaidd wedi gosod y sylfaen ar gyfer animeiddio Japaneaidd. Mae OHTSUKA Yasuo (1931 – 2021) yn un o’r animeiddwyr hynny ac mae ei gyfraniadau’n haeddu llawer mwy o gydnabyddiaeth. Cyfrannodd OHTSUKA yn weithredol at y maes o gychwyn y1950au. Yn y 1960au, fe wnaeth gydnabod talentau TAKAHATA Isao a MIYAZAKI Hayao, gan eu meithrin yn frwdfrydig a chydweithio ar weithiau byd-enwog bellach megis Lupin III: Castell Cagliostro.

Fel rhan o Ŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu, partner gyda’r Japan Foundation,  bydd KANOH Seiji, athro a benodwyd yn arbennig ym Mhrifysgol Tokyo Zokei, yn trafod arwyddocâd gwaith ac ethos OHTSUKA yn y sgwrs ar-lein unigryw hon, yn ogystal â’r effaith barhaol y mae wedi’i chael ar gefnogwyr a chrewyr anime am genedlaethau i ddod.


Cefndir yr Athro KANOH Seiji

Ysgolhaig ffilm Japaneaidd, Athro a benodwyd yn arbennig ym Mhrifysgol Tokyo Zokei, a chynrychiolydd Sefydliad Ffilmiau Isao Takahata a Hayao Miyazaki.

Fel ysgolhaig blaenllaw mewn animeiddio Japaneaidd, mae’r Athro KANOH wedi gwasanaethu fel cynghorydd cynllunio a chyfrannwr catalog ar gyfer arddangosfeydd mawr gan gynnwys “Isao Takahata Exhibition: His Legacy to Japanese Animation” (2019, Tokyo); “The Man Who Made Japanese Animation” (2025, Tokyo); ac “Isao Takahata: Pioneer of Contemporary Animation, from the Post-War Era to Studio Ghibli” (2025, Paris).

Mae ei gyhoeddiadau’n cynnwys “The Complete Works of Miyazaki Hayao” a “The People Who Built Japanese Animation: New Edition”.