Kotatsu Caerdydd 2026

Sad 26ed Hydref – gyda Dehonglydd BSL heddiw yn unig
11:00
Children of the Sea (PG)
13:25
Dosbarth Meistr yr Artist CGI Masaya Inaba (12)
Anime a CGI: Sut mae 2D a CGI yn gweithio gyda’i gilydd
Sut yn union mae anime Japaneaidd yn cael ei greu?
15:30
ALL YOU NEED IS KILL (15)
18:30
Jero11 Perfformiad byw + Dojoji Ffilm fer (12)
20:15
Akira (15)
Sul 27ed Hyd
11:30
Lupin III: The Castle of Cagliostro(PG)
13:35
Sginio ICAF (12)
15:30
Lupin the IIIrd: The Movie – The Immortal Bloodline(15)
17:30
Raffl
18:00
Derbyniad yn y Cyntedd
Oni nodir yn wahanol, mae pob ffilm yn yr iaith Japaneaidd gydag isdeitlau Saesneg.
Am wybodaeth am docynnau cysylltwch â:
Swyddfa Docynnau Chapter ar +44 (0)29 2031 1050
Sad Hydref 26
gyda Dehonglydd BSL heddiw yn unig
11:00 Children of the Sea (PG)
Wedi ei addasu o manga gan yr awdur Daisuke Igarashi, a enillodd y Wobr am Ragoriaeth yng ngŵyl Japan Media Arts Festival, rhaid gweld Children of the Sea – Plant y Môr gan STUDIO 4°C yn Japan (yn enwog am Tekkonkinkreet, Mind Game, Animatrix, Batman: Gotham Knight ac eraill).
Wedi ei gyfarwyddo gan Ayumu Watanabe, mae’r ffilm yn cynnwys scôr gan Joe Hisaishi, y cyfansoddwr blaenllaw ag amryw wobrwyon tu cefn iddo, a chydweithiwr hir-dymor gyda Stiwdio Ghibli. (Spirited Away, Howl’s Moving Castle, My Neighbour Totoro).
Siapan | 2019 | 1awr 51mun | PG | Ayumu Watanabe | Japaneeg gyda than-deitlau Saesneg
13:25 Anime a CGI: Sut mae 2D a CGI yn gweithio gyda’i gilydd (12)

Anime a CGI: Sut mae 2D a CGI yn gweithio gyda’i gilydd
Sut yn union mae anime Japaneaidd yn cael ei greu?
Yn ystod y sgwrs hon, byddwn yn edrych yn fras ar sut mae anime yn cael ei greu gan ddarganfod sut mae CGI yn dod â’r cyfan at ei gilydd. O dechnegau animeiddio traddodiadol i ddefnyddio CGI i greu golygfeydd heriol, byddwn yn trafod y byd tu cefn i anime drwy enghreifftiau go iawn o’r broses o gynhyrchu.
Masaya Inaba | Artist a Chyfarwyddwr Animeiddio CGI Annibynnol
Dechreuodd Inaba ei yrfa yn 2011 fel artist CGI yn Studio 4°C yn Tokyo. Gan weithio gydag After Effects a Blender, mae’n creu ensemblau gweledol sy’n cyfuno animeiddio llaw, celf cefndir, a CG, ac mae wedi bod yn gyfrifol am lawer o doriadau arbennig cymhleth, arloesol, a hanfodol i’r stori. Yn aml yn cael ei ddisgrifio fel “yr un sy’n gallu gwneud iddo weithio,” mae’n adnabyddus am fynd i’r afael â’r golygfeydd mwyaf heriol; ganed ef yn Japan ym 1986, a threuliodd ran o’i blentyndod yn Detroit, gan roi persbectif ychydig yn anghonfensiynol iddo.
Llywydd :Nia Alavezos
15:30 All You Need IS KILL (15)
Wedi’i osod yn y flwyddyn 20XX, mae ALL YOU NEED IS KILL yn dilyn stori Rita, menyw ifanc ddyfeisgar ond ynysig sy’n gwirfoddoli i helpu i ailadeiladu Japan ar ôl ymddangosiad dirgel blodyn estron enfawr o’r enw “Darol.” Pan fydd Darol yn ffrwydro’n annisgwyl mewn digwyddiad marwol, gan ryddhau creaduriaid anferth sy’n difa’r boblogaeth, mae Rita yn cael ei dal yn y dinistr – a’i lladd. Ond yna mae hi’n deffro unwaith eto. Ac eto. Wedi’i dal mewn dolen amser ddiddiwedd, rhaid i Rita lywio’i ffordd drwy’r trawma a’r profiad o ailadrodd marwolaeth nes iddi ddod ar draws Keiji, dyn ifanc swil wedi’i ddal yn yr un cylch. Gyda’i gilydd, maent yn ymladd i dorri’n rhydd o’r ddolen a dod o hyd i ystyr yn yr anhrefn o’u cwmpas.
Siapan | 2026 | 1awr 26mun | 15 | Kenichiro Akimoto | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg |
18:30 Perfformiad byw Jero11 + Ffilm Fer Dojoji (12)


JERO11: Galw’r Yōkai
妖怪召喚
Mae JERO11 yn gerddor a chyfansoddwr ‘heavy metal’ sy’n cyfuno cerddoriaeth draddodiadol Japan â cherddoriaeth fetel offerynnol. Adeiladodd ei shamisen drydan ei hun ac mae wedi datblygu steil unigryw o chwarae’r shamisen ar gyfer cerddoriaeth fetel. Wedi’i ysbrydoli’n fawr gan anime, Vocaloid a cherddoriaeth gemau fideo, mae’n creu ei gerddoriaeth wreiddiol ei hun yn ogystal â fersiynau metel offerynnol o ganeuon eraill, gan ymgorffori elfennau traddodiadol o Japan. Yn gefnogwr brwd o ffasiwn draddodiadol Japan, mae JERO hefyd yn teimlo’n anrhydeddus iawn o fod yn llysgennad yn y DU ar gyfer MISAMARU, brand ffasiwn ‘kimono’ modern o Japan.
*Mae’r perfformiad hwn yn cynnwys delweddau sy’n fflachio a cherddoriaeth roc uchel*
Dojoji
Creodd Kawamoto ffilm o’i addasiad ei hun o Anchin a Kiyohime. Dyma stori o’r Konjaku Monogatari, casgliad o chwedlau gwerin a gasglwyd ar ddiwedd y cyfnod Heian.
Ar ei bererindod i Gysegrfa Kumano mae offeiriad ifanc yn chwilio am loches mewn llety. Yn y llety mae gwraig weddw yn syrthio mewn cariad gydag ef. Yn ei dduwioldeb mae’r offeirad yn ymwrthod â hi ac yn gwneud addewid ffug iddi y bydd e’n ei gweld pan ddaw yn ôl. Ond mae’r weddw yn sylweddoli ei bod wedi cael ei thwyllo. Yn llawn cariad a chasineb, mae hi’n ei ddilyn.
Siapan | 1976 | 19m | 12 | Kihachiro Kawamoto | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg |
20:15 Akira (15)
Yn eiconig ac yn chwyldroadol, AKIRA yw’r campwaith anime diffiniol! Chwalodd clasur cyberpunk Katsuhiro Otomo ffiniau animeiddio Japan a gorfodi’r byd i edrych Tua’r dyfodol. Fe wnaeth dyfodiad AKIRA chwalu syniadau traddodiadol, gan greu lle I genedlaethau’r dyfodol o ffilmiau arloesol.
Gorffennaf 1988—mae’r Drydedd Ryfel Fyd yn cychwyn. Yna, yn 2019, yn ninas enfawr Tokyo… Fel arweinydd grŵp o droseddwyr ifanc a chryf, treuliai Kaneda ei nosweithiau yn rhuthro drwy’r anialwch trefol, gan rasio ei feic modur yn erbyn grwpiau cystadleuol. Un noson, wrth iddo yrru gyda’i gang, daw ei ffrind Tetsuo, yn sydyn, ar draws bachgen rhyfedd – canlyniad arbrofion ar fodau dynol – ac mae’n cael ei anafu yn y ddamwain a ddilynodd. Yn fuan wedyn, mae sgwadron milwrol yn cyrraedd y fan a’r lle i fynd â’r bachgen a Tetsuo i ganolfan ymchwil y fyddin. Yn benderfynol o ryddhau Tetsuo o’i gaethiwed, mae Kaneda yn sleifio i mewn i labordy ymchwil y fyddin. Fodd bynnag, mae cyfres o weithdrefnau arbrofol eithafol wedi deffro pŵer newydd yn ei ffrind, ac yn awr mae’n cael ei lyncu gan wallgofrwydd…
Siapan | 1988 | 2h5m | 15 | Katsuhiro Otomo | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg |
Sul Hydref 27
11:30 Lupin III: The Castle of Cagliostro(PG)
The Castle of Cagliostro yw’r ffilm nodwedd gyntaf a gyfarwyddwyd gan Hayao Miyazaki. Yma, mae ein harch-leidr eiconig Lupine yn trefnu lladrad gwefreiddiol mewn casino yn Monte Carlo, dim ond i ddarganfod bod yr ysbail yn ffug. Mae Lupine yn olrhain y biliau ffug i wlad Cagliostro lle mae Iarll drwg yn cynhyrchu arian ffug ac yn ei ddosbarthu ledled y byd. Gyda phartneriaid tu cefn iddo (gan gynnwys gangster wedi ymddeol, samurai modern a lleidr benywaidd hardd) mae Lupine yn mynd i Cagliostro ble mae hefyd yn dod o hyd i addewid o drysor cudd a Clarice, Tywysoges hardd sydd angen ei hachub o grafangau erchyll yr Iarll.
Siapan | 1979 | 100 mun | PG | Hayao Miyazaki | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg |
13:35 Cyflwyniad ICAF (12)
Rhaglen animeiddiedig fer gan fyfyrwyr prifysgol o Japan, a guradwyd o ICAF (Gŵyl Animeiddio Rhyng-golegol).

Mamiko’s poop
Gwaith wedi ei animeiddio ar thema gwrthhuni. Mae Mamiko yn gorfwyta ar y noson ar ôl iddi hi ddarganfod bod ei chariad wedi bod yn ei thwyllo, ac wedyn yn gwneud ei hunan yn sâl. Mae’r carthion ddaw o hyn wedyn yn mynd i ladd ei chariad yn ei lle hi.
Siapan | 2024 | 2m 21s | Yasuteru Ohno | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg |

Mamiko’s poop
Birds
Gwaith animeiddio du a gwyn yn cyfleu adar ar wifrau ffôn. Rwyf yn gyfarwydd ag adar gwyllt, ac mi wnes i eu hanimeiddio ar y gwifrau gyda chymaint o fywiogrwydd fel petasent yn y byd naturiol.
Siapan | 2024 | 2m 2s | Nanako Takayama | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |

The heart’s balance
Stori am ferch sy’n cael trafferthion gyda’r anghysondeb rhwng ei realiti a’i delfrydau hi. Ei breuddwyd yw drych o’i hunan, sy’n cynnwys brwydr rhwng y tedi pinc (ei delfrydau) a’r anghenfil du (ei realiti). Mae hyn yn gwneud iddi hi sylweddoli ei bod hi’n iawn i garu pob rhan o’i hunan.
Siapan | 2025 | 4m 6s | Kuroki Chihiro | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |

MAGICAL GIRL
Un diwrnod, tra bod merch yn cerdded adre o’r ysgol, mae cylch allwedddi siap seren ar ei bag yn datblygu i’w gwir ffurf ac yn lansio hi i fyd arall!
Siapan | 2024 | 2m 56s | Shota Oka | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg |

APORIA
Meicrob yw Nicro sy’n cael gwared â sbwriel o’r gofod o’r tu mewn i fwystfil anferth.
Un diwrnod, mae’n darganfod Tsumuri, creadur tebyg i ymennydd, yn gwisgo penglog, oddi mewn i siwt ofodol bod dynol. Felly dyma gychwyn ar stori hynod o’r creadur sy’n bodoli tu allan i’r corff a fydd yn herio canfyddiadau ei gynulleidfa a’i gymeriadau ar yr un pryd.
Siapan | 2024 | 7m | Sameshima Momoha | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |

whimsies
Mae’r broses o blygu ac ail agor darn o bapur yn creu plygiadau sy’n ffurfio llinellau. Daw’r llinellau hyn â’r papur yn nes at ffurf 3D, gan wneud iddo edrych fel gwrthrych arall. ‘Rydw i’n meddwl am y pethau hyn yn aml.
Siapan | 2024 | 4m 51s | Amami Hashimoto | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |

Q
Un noson mae bachgen yn cael damwain ar ei feic ar ffordd fynyddig. Dyna ble y dechreuodd popeth.
Siapan | 2025 | 7m 33s | Masataka Kihara | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg

distance
Mae’r gwylltineb i ddychwelyd yn ôl i’r gorffennol yn bodoli ochr yn ochr â’r gwerthfawrogiad o gael cyfarfyddiadau a phrofiadau newydd. Mi wnes i greu hwn dros gyfnod o bedair blynedd. Rwyn teimlo y gall cael ffrindiau a lle i alw’n gartref codi calon. Rwyf eisiau cerdded i mewn i’r presennol tra’n trysori fy atgofion.
Siapan | 2024 | 4m 49s | Fumika Hino | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |

Borborygmophobia
Grrwl. Stumog yn cadw sŵn. Cymaint o embaras. Ond er cymaint chi’n ceisio ei atal chi ddim yn gallu. Mi wnes i greu y gwaith animeiddio hwn o fy mhrofiad o’m stumog i’n cadw sŵn pan oeddwn i yn yr ysgol isaf, gan ddefnyddio cyffelybiaeth i’w bortreadu.
Siapan | 2025 | 4m 37s | Ami Konuma |Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |

Yobi and Amari
Mae set o gardiau chwarae ysblennydd yn ddigon bach i ffitio i gledr y llaw. Mae’r perfformwyr, neu’r 54 cerdyn, yn adlonni gwesteion pob nos ar y bwrdd. Yn y cyfamser, mae Yobi ac Amari – cardiau sbâr heb ddelwedd – yn rhwystredig yn gyson oherwydd nad ydynt wedi cael yr un cyfle i berfformio ar y llwyfan; yn lle hynny rhaid iddynt barhau i ymarfer gefn y llwyfan rhag ofn iddynt gael eu galw i lenwi i mewn ar ran eraill. Yna, un diwrnod, mae damwain a chaiff Jack y Diemwnt ei ddinistrio mewn tân.
Siapan | 2024 | 11m 30s | Miou Hiruma | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |

Snowy Days
Yn y gwaith hwn wnes i ymchwilio swyn yr eira: ei wynder, ei wead a’i fyrhoedledd. Stori yw hi am ferch a chwningen yr eira sy’n cael ei deffro gan bŵer rhyfeddol. Mae’n digwydd dros y gaeaf mae nhw’n treulio gyda’i gilydd tan y gwanwyn canlynol.
Siapan | 2025 | 8m2s | Kaho Suzuki | | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |

Those Vivid Days
Mae’r dyddiau coll gwych hynny yn disgleirio’n llawn hiraeth. Dydy’r amser hwnnw ddim yn bodoli bellach fel ag yr oedd, ac eto mae wedi ei wreiddio’n ddwfn yn fy nghalon. Roeddwn i’n credu mewn posibiliadau di-derfyn; y gallwn i ddatblygu i fod yn unrhyw beth.
Siapan | 2025 | 2m 14s | Haruya Kageyama | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg |

Who am I?
Daw fy ysbrydoliaeth i’r gwaith hwn o un syniad: “Oni fyddai’n ddoniol petaswn i’n edrych i mewn i’r drych a gweld delwedd rhywun arall?”
‘Dydw i byth yn dangos gwyneb y dyn ac ‘rwyf yn defnyddio llawer o ddelweddau wedi eu golygu yn dangos adlewyrchiadau mewn drychau a ffenestri i gyfleu’r syniad yma mewn ffordd ddiddorol.
Siapan | 2024 | 2m54s | Shion Iwata | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |

Veils of Landscape
Mae gwynt dwyreiniol yn chwythu gydag awgrym o wres ar ei hynt. Mae’r tirwedd yn ymestyn pob ffiniau, yn cyfuno, ac yn y diwedd mae’r mynyddoedd yn mynd i gysgu.
Siapan | 2025 | 5m 10s | Chihiro Yamanaka | Siapaneeg gyda than-deitlau Saesneg | F-Rated |
11:30 Lupin the IIIrd: The Movie – The Immortal Bloodline(15)
Ar ôl goresgyn cyfres o lofruddion medrus, mae’r lleidr bonheddig Lupin III a’i griw o gynghreiriaid yn dilyn gwahoddiad rhyfedd i ynys sydd heb ei mapio. Pan gaiff eu hawyren ei saethu i lawr, mae’r criw ar goll heb fodd dianc a chyn bo hir maent yn cael eu hela gan drigolion yr ynys, hen elynion, a chreadur anferth anfarwol o’r enw Muom, sy’n bygwth dinistrio etifeddiaeth Lupin. Wrth i niwl gwenwynig marwol ymgasglu o’u cwmpas, rhaid i Lupin wynebu ei elyn mwyaf yn ei antur fwyaf beiddgar hyd yma.
Mae’r cyfarwyddwr chwedlonol Takeshi Koike yn dychwelyd i fasnachfraint LUPIN THE IIIRD ar ôl chwe blynedd gyda’i ddehongliad unigryw a chyffrous o waith manga gwreiddiol Monkey Punch. Mae LUPIN THE IIIRD: The Movie – The Immortal Bloodline yn cyfuno arddull nodedig Koike ag awyrgylch clasurol a chyffrous gwaith Monkey Punch i greu campwaith ffuglen wyddonol hynod gyffrous. Bydd y dangosiad hwn yn cynnwys cyflwyniad arbennig wedi’i recordio gan y cyfarwyddwr ei hun, Takeshi Koike.
Japan | 2025 | 1h 33m | PG | Takeshi Koike | Japanese with English subtitles |
17:30 Raffl

Bydd tocynnau ar gyfer raffl eleni ar gael yn ystod yr ŵyl, ar stondin Kotatsu.
Tocynnau yn 50c yr un.
Ceir manylion llawn y gwobrau ar ein tudalen raffl.
18:00 Derbyniad yn y Cyntedd
Marchnad 11am – 5pm

Stondin Gŵyl Kotatsu
Detholiad o nwyddau sy’n gysylltiedig â Kotatsu, comics, DVDs gyda phris fforddiadwy. Bydd yr holl arian a godir ar y stondin hon yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r ŵyl y flwyddyn nesaf. Er mwyn lleihau’r defnydd o fagiau plastig, dewch â’ch bagiau a’ch pocedi poli eich hun os yn bosibl.
Wazakka

Amrywiaeth o eitemau wedi’u gwneud â llaw fel bagiau a chodenni.
Japan-bits

Detholiad o gymeriadau amigurumi (crosio) a nwyddau cysylltiedig â Japan.
Haruyama Studio

Stiwdio serameg annibynnol yng Nghaerdydd sy’n creu crochenwaith caled ar gyfer defnydd bob dydd, wedi’i wneud ar olwyn grochenydd, yw Haruyama Studio
Jero11 (Dydd Sul yn unig)

Bydd JERO11 yn dod â rhai o’i nwyddau swyddogol, gan gynnwys CDs, cadwyni allweddi, printiau wedi’u llofnodi, crysau-T a hwdis. Dewch i siarad ag ef am y shamisen a cherddoriaeth draddodiadol Japan!
(Dydd Sadwrn yn unig)
Calligrapher Yukiko Ayres (Dydd Sul yn unig)
Bydd y Caligraffydd Japaneaidd Yukiko Ayres 惠杏壽昌鶴 yn arddangos celfyddyd ‘Shodo’ trwy gydol y dydd ac yn cynnig cyfle i chi gael cofeb ganddi o’ch enw neu air sy’n arbennig i chi mewn sgript Japaneaidd wedi ei greu gyda brwsh ac inc.
Gweithgareddau Teuluol Am Ddim yng nghyntedd y sinema

Mae gennym amrywiaeth eang o manga a deunyddiau darllen. Beth am bori a setlo i lawr am ychydig o ddarllen? Rydym yn gwneud ein gorau i fod yn gynaliadwy, a fyddech cystal ag ystyried rhoi eich comics/llyfrau/DVDs hoff i ni.
Peidiwch â mynd ag unrhyw un o’r llyfrau adref gyda chi. Gallwch eu prynu am bris fforddiadwy os dymunwch.
Cornel Teganau

Bydd gennym weithgareddau am ddim ar gael i deuluoedd a phlant. Mae Toybox Project wedi bod mor garedig â rhoi llyfrau lliwio a sticeri hoffus i ni, yn ogystal â phosau a gemau. Ar ôl y digwyddiad, bydd rhai o’r gemau yn cael eu rhoi i Chapter, tra bydd y lleill yn cael eu dychwelyd i Toybox Project.
Sefydliad yng Nghymru yw Toybox Project sy’n casglu teganau diangen ac yn eu hailddosbarthu i deuluoedd mewn angen. Ni allwn roi teganau i ffwrdd y tro hwn ond gallwch eu casglu o’u warws os oes angen. Archebwch eich ymweliad.
Kotatsu Table

Eisteddwch a chynheswch eich traed wrth ddarllen ein comics.
Tynnwch eich esgidiau cyn mynd i mewn.
Gwobr Beirniaid Ffilm Kotatsu
Bydd ffilmiau Kotatsu yn cael eu beirniadu gan banel o dri beirniad.
Nonki Ashita

Dechreuodd Chie Arai weithio’n llawrydd yn 2002 wedi iddi fod yn gweithio mewn stiwdio animeiddio. Yn ogystal â gweithio fel arlunydd ac animeiddiwr traddodiadol, mae hi’n parhau i greu llyfrau fflip a ffilmiau animeiddiedig. Ers 2006, mae hi wedi trefnu arddangosfa grŵp o artistiaid sy’n caru llyfrau fflip, sef y Parapara Manga Kissaten “Flip Manga Exhibit”, sydd wedi cael ei chyflwyno mewn sawl lleoliad canolog o gwmpas Tokyo. Mae hi hefyd wedi gweithio yn yr adran fodelu ym Mhrifysgol Bunka Gakuen ers 2015, ac mae hi’n aelod o Gymdeithas Animeiddio Japan (JAA) a Chymdeithas Astudiaethau Animeiddio Japan (JSAS)
Amy Morris

Mae Amy Morris yn gynhyrchydd creadigol Brydeinig sy’n gweithio yng Nghymru; mae ganddi 17 mlynedd o brofiad ym meysydd animeiddio a ffilm annibynnol, a dros 60 o gredydau cynhyrchu i’w henw. Hi yw sylfaenydd Winding Snake Productions, menter sy’n meithrin eiddo deallusol (IP) animeiddiedig gwreiddiol.
Mae hi hefyd gyd-sylfaenydd AMMÔ Animation, lle mae hi’n datblygu ac yn cynhyrchu animeiddiadau gwreiddiol ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol.
Mae ei gwaith cynhyrchu wedi ennill cydnabyddiaeth gan BAFTA, enwebiadau gan BAFTA Cymru a statws ‘Vimeo Staff Picks’, gyda ffilmiau’n cael eu dewis ar gyfer gwyliau sy’n gymwys ar gyfer yr Oscars yn rhyngwladol.
Ymhlith ei gweithiau nodedig mae *Cwch Deilen* gan Efa Blosse Mason, a gafodd ei ddangos mewn 26 o wyliau ffilm rhyngwladol, gan gynnwys Tribeca, Frameline a FlickerFest. Cipiodd y ffilm hon y wobr ‘Best of British’ yng Ngwobrau Iris. Fel cynhyrchydd a rheolwr rhaglen Ffolio Ffilm Cymru Wales, goruchwyliodd y broses o ddatblygu a chyflwyno 16 o ffilmiau ar gyfer eu darlledu; cynhyrchodd 12 ohonynt a chefnogodd dalentau ffilmio newydd o Gymru.
Ar hyn o bryd, mae ganddi bortffolio datblygu cynhwysfawr ar waith, gan cynnwys ffilmiau nodwedd a chyfresi animeiddiedig ar gyfer cynulleidfaoedd o oedolion a’r ifanc. gan gydweithio â stiwdios a phartneriaid creadigol yng Nghanada ac Iwerddon. Mae ganddi hefyd dîm cynhyrchu sy’n gweithio rhwng Cymru a Hwngari ar waith animeiddiedig newydd i’w ryddhau yn 2027. Trwy Winding Snake Productions ac AMMÔ Animation, mae hi’n datblygu eiddo deallusol gwreiddiol ac yn meithrin partneriaethau rhyngwladol, gyda’r nod o greu animeiddiadau o Gymru sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.
Shinobu Soejima

Mae Shinobu Soejima yn creu ffilmiau byr stop-motion, gosodiadau creadigol a cherfluniau o ddeunyddiau organic, megis reis, cig a phryfed, yn ogystal â phypedau. Trwy fanteisio’n llawn ar fecanwaith animeiddio, mae hi’n archwilio’r broses o ddiddymu ffiniau – rhwng pethau byw a phethau difywyd, y canol a’r ymylon, a’r hyn sy’n weladwy a’r hyn sy’n anweladwy. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau mewn gwyliau ffilm yn Japan ac yn rhyngwladol, gan gynnwys gwobr ‘Special Mention’ gan Banel Beirniaid Eciwmenaidd yng Ngŵyl Ffilmiau Byr Ryngwladol Oberhausen (y 68ain rhifyn); Gwobr y Beirniaid yng Ngŵyl Celfyddydau Cyfryngau Japan (yr 22ain rhifyn); Gwobr Efydd Kon Satoshi yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Fantasia, 2025; Gwobr Shibuya Sky yng nghystadleuaeth arbrofol Dwyrain Asia yn yr ŵyl Image Forum; a Gwobr Eriko Kimura yng nghystadleuaeth Art Award Tokyo Marunouchi yn 2018.
