Cafodd Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu ei chreu gan y trefnydd Ms Eiko Meredith. Mae’r ŵyl, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2010 yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, yn dangos y gorau mewn animeiddio a diwylliant Japan i gynulleidfa eang.
Ein nod yw lledaenu llawenydd animeiddio Japaneaidd ac, i’r perwyl hwn, rydyn ni’n ymdrechu i fod mor hygyrch a chynhwysol â phosibl. Yn yr un modd, mae’r ffilmiau rydyn ni’n eu harddangos yn dod o gronfa amrywiol o grëwyr Japaneaidd. Fel arfer byddwn yn sgrinio ein ffilmiau yn yr iaith Japaneeg wreiddiol gydag isdeitlau Saesneg.
Rydyn ni’n gwneud ein gorau i gadw cydbwysedd teg rhwng y rhywiau (gwneuthurwyr ffilm gwrywaidd/benywaidd) yn ein rhaglenni. Mae ffilmiau sy’n cael eu cyfarwyddo a/neu eu hysgrifennu gan fenywod wedi’u nodi â logo Gradd F.
Mae ein gwyliau yn cynnwys stondinau a gweithgareddau sy’n amlygu diwylliant ehangach Japan ac yn creu awyrgylch hwyliog a chroesawgar, fel ein raffl blynyddol sy’n hynod boblogaidd. Rydyn ni hefyd yn cynnal digwyddiadau ar-lein rhad ac am ddim y gellir eu dilyn o bob rhan o’r byd.
Mae’r ŵyl yn elusen gofrestredig (RCN1187288) sy’n dibynnu ar roddion a chymorth ariannol. Mae’r arian a godir o’n stondinau a’n raffl yn mynd yn ôl i’n coffrau tuag at sicrhau y gall yr ŵyl barhau yn y flwyddyn ganlynol. Os hoffech chi ein cefnogi ni mae ‘na ffyrdd eraill hefyd, gan gynnwys trwy Patreon a phrynu ein nwyddau ar RedBubble. Gallwch hefyd ein cefnogi drwy gofrestru ar gyfer EasyFundRaising, sy’n ein galluogi i gasglu rhoddion pan fyddwch yn siopa ar-lein heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
Mae ‘Kotatsu ‘ yn fwrdd sy’n unigryw i Japan, wedi’i orchuddio â blanced, futon neu gwilt, gyda gwresogydd oddi tano. Mae’n ddelfrydol i gadw’ch traed a’ch coesau’n gynnes tra’ch bod yn brysur weithio ar nosweithiau oer y gaeaf. Felly, dewch i mewn, tynnwch y flanced o’ch cwmpas a mwynhewch rai o’r animeiddiadau Japaneaidd gorau sydd ar gael.
Character Designs & Animation courtesy of Chie Arai
Gŵyl Kotatsu – Cyfarwyddwr yr Ŵyl
Eiko Meredith (Gwiriad DBS estynedig)
Gŵyl Kotatsu – Ymddiriedolwyr
Robin Lyons (Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr)
Alexandra Owen-Burns
Benjamin Hugh Rive
Tîm Cefnogi
Gary Bush – Graphic / Dylunio Gwe, TG
Cefnogwch Ni
Patreon: Cefnogwch ni trwy gofrestru i fod yn gefnogwr ar Patreon. Gallwch chi fod yn aelod Kohai, Senpai, Sensei neu Otaku!
EasyFundRaising: Ydych chi’n siopa ar-lein? Cofrestrwch ar gyfer Easyfundraising a gallwch droi eich siopa ar-lein yn rhoddion am ddim.