Gwobr y Beirniaid 

Pob blwyddyn mae ein panel o feirniaid, i gyd un yn flaengar yn y diwydiant animeiddio, yn anrhydeddu y ffilm orau ym mhob lleoliad. 

Isod mae cofnod o’r holl enillwyr ers i ni gyflwyno y gwobrau hyn yn 2021.

Gwobr y Gynulleidfa

Mae ein cynulleidfaoedd ym mhob lleoliad yn pleidleisio dros eu hoff ffilm.


Gwobrau 2025


Totto-Chan

©Kuroyanagi Tetsuko/2023 Totto-chan the Movie: The Little Girl at the Window Committee

Cyfarwyddwr: Shinnosuke Yakuwa

Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau


The Colors Within

The Colors Within
© 2024 “THE COLORS WITHIN” FILM PARTNERS

Cyfarwyddwr: Naoko Yamada

Gwobr y Gynulleidfa Caerdydd am y ffilm Orau


Ghost Cat Anzu

©2024 Shin-ei Animation., Ltd. / Miyu Productions / TV asahi corporation / TOHO Co., Ltd. / AT-X. Inc. / MARUI GROUP CO., LTD. / NBCUniversal Entertainment Japan LLC
©Takashi Imashiro / Kodansha

Cyfarwyddwr: Yôko Kuno, Nobuhiro Yamashita

Gwobr y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau


Perfect Blue

Satoshi Kon
© 1997 MADHOUSE

Cyfarwyddwr: Satoshi Kon

Gwobr Y Gynulleidfa Aberystwyth am y Ffilm Orau


Yobi and Amari

Cyfarwyddwr: Miou Hiruma

Gwobr y Beirniaid Tape am y Ffilm Orau


Yapolaponky

.

Cyfarwyddwr: Masataka Kihara

Gwobr Y Gynulleidfa Tape am y Ffilm Orau


Gwobrau 2024


Millennium Actress

Screenshot from Millennium Actress
© 2001 Millennium Actress Production Committee

Cyfarwyddwr: Satoshi Kon

Gwobr Y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau


The Concierge

Screenshot from The Concierge
©2023 Tsuchika Nishimura/Shogakukan/ “The Concierge” Film Partners

Cyfarwyddwr: Yoshimi Itazu

Gwobr y Gynulleidfa Caerdydd am y ffilm Orau

Gwobr Y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau


Lupin III: The Castle of Cagliostro

Screenshot from Lupin III: The Castle Of Cagliostro
Original comic books created by Monkey Punch
© Monkey Punch All Rights Reserved.
© TMS All Rights Reserved.

Cyfarwyddwr:Hayao Miyazaki

Gwobr y Gynulleidfa Aberystwyth am y ffilm Orau


HIDARI

Screenshot from HIDARI by KAWAMURA Masashi and OGAWA Iku
© KAWAMURA Masashi and OGAWA Iku

Cyfarwyddwr: Masashi Kawamura | Iku Ogawa

Gwobr Gynulleidfa Caerdydd am y Ffilm Orau

Diolch o galon am fy anrhydeddu gyda Gwobr y Gynulleidfa.  ‘Rwyn hynod o hapus bod y prosiect hwn yn denu cymaint o gariad, hyd yn oed fel peilot o ffilm. Ar hyn o bryd ‘rydyn ni wrthi’n ddyfal tu hwnt yn troi hwn yn ffilm llawn gan ddefnyddio y delweddau ffilm a’n sgript sydd newydd ei orffen. Buaswn i’n gwerthfawrogi’n fawr eich cefnogaeth wrth i ni balu ymlaen tua’r terfyn.  

Masashi Kawamura (Cyfarwyddwr)


Diolch yn fawr iawn i Ŵyl Animeiddio Kotatsu ac i bawb yn y gynulleidfa! Dwi mor mor falch o dderbyn Gwobr y Gynulleidfa. Ond megis y dechreuad yw’r ffilm fer hon. ‘Rydym wedi bod yn gwneud ein gorau glas i greu prif ffilm o HIDARI, felly cadwch lygad barcud am ein newyddion!

Iku Ogawa (Cyd-Gyfarwyddwr)


A Bite of Bone

Screenshot from A Bite of Bone by YANO Honami
© YANO Honami

Cyfarwyddwr: Honami Yano

Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Fer Orau

Hoffwn estyn fy ngwerthfawrogiad o’r galon o dderbyn Gwobr y Beirniaid yng Ngŵyl Animeiddio Kotatsu eleni. Roedd bod yn rhan o Ddetholiad Chitose yn fraint yn ei hunan, a meddyliais erioed byddai fy ffilm i yn cael ei gymeradwyo gyda’r fath wobr arbennig. ‘Rwyn hynod ddiolchgar i’r beirniaid, trefnwyr yr Ŵyl ac i bawb ddaeth i wylio fy ffilm.

Yn y ffilm hon cyfleir honekami (brathu esgyrn), traddodiad sy’n dal i gael ei arfer mewn rhai rhannau ar draws Japan, lle mae galarwyr yn cymryd darnau o esgyrn eu hanwyliaid ar ôl amlosgiad a’u rhoi yn eu cegau*. Trwy’r ddefod hon mae’r person a gollwyd yn dod yn rhan ohonyn’ nhw, ac yn eu helpu i orchfygu eu teimladau o dristwch a galar. Mae gweddillion yr ymadawedig yn bodoli ar y cyd yn yr un gofod, rhwng y presennol a’r gorffennol, a phrif thema y ffilm hon yw fy llidwyneb i gyda’r esgyrn nad o’n i’n gallu rhoi yn fy ngheg.

Dwi’n mawr obeithio y gallaf barhau i greu gweithiau sy’n caniatáu i mi rannu fy mhrofiadau a’m straeon gyda phawb. Diolch yn fawr iawn.

*Yn Japan dydy gweddillion o amlosgfa ddim yn lludw mân fel sy’n arferol yn y Gorllewin


Gwobrau 2023


The First Slam Dunk

The First Slam Dunk
© I.T. PLANNING, INC.
© 2022 THE FIRST SLAM DUNK Film Partners

Cyfarwyddwr: Takehiko Inoue

Gwobr Y Gynulleidfa Caerdydd am y Ffilm Orau
Gwobr y Gynulleidfa Aberystwyth am y ffilm orau
Gwobr Y Gynulleidfa Bangor am y Ffilm Orau (Enillwyr Cydradd)
Gwobr y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau


Patema Inverted

©Yasuhiro Yoshiura

Cyfarwyddwr: Yasuhiro Yoshiura

Gwobr Y Gynulleidfa Bangor am y Ffilm Orau (Enillwyr Cydradd)


Miss Hokusai

Miss Hokusai
© 2014-2015 Hinako Sugiura•MS.HS / Sarusuberi Film Partners

Cyfarwyddwr: Keiichi Hara

Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau


Blue Thermal

Blue Thermal
©2022 BLUE THERMAL Film Partners

Cyfarwyddwr: Masaki Tachibana

Gwobr y Beirniaid Bangor am y Ffilm Orau


Gwobrau 2022


Inu-Oh

Screenshot of the Award Winning Inu-Oh by Masaaki Yuasa
INU-OH
©2021 “INU-OH” Film Partners


Cyfarwyddwr: Masaaki Yuasa

Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau
Gwobr Y Gynulleidfa Caerdydd am y Ffilm Orau
Gwobr y Gynulleidfa Aberystwyth am y ffilm orau

Rwyf yn hynod o gyffrous o glywed y newyddion bod “INU-OH” wedi ennill Gwobr y Beirniaid yn Chapter a Gwobr y Gynulleidfa yn Chapter ac yn Aberystwyth!!

Lleolir stori INU-OH yn yr hen Japan, ac er bod rhannau o’r ffilm falle yn anodd i’w deall, gall y math yma o ddigwyddiadau a’r math yma o bobl fod wedi digwydd a bodoli ymhobman. Rwyf mor falch bod pobl Cymru wedi mwynhau y teitl hwn.

Diolch o galon!!


The House of the Lost on the Cape

©Sachiko Kashiwaba, KODANSHA/2021 The House of the Lost on the Cape Committee.


Cyfarwyddwr: Shinya Kawatsura

Gwobr y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau

Rwyf mor falch o dderbyn gwobr yng Ngŵyl Animeiddio Kotatsu.

Stori mewn tref fechan, deufis ar ôl y Daeargryn Fawr yn Nwyrain Japan, yn mis Mawrth 2011, yw sail y ffilm. 

Cafodd dinistr y daeargryn enfawr hwn argraff ddirdynnol ar bobl Japan. O ganlyniad prin iawn o ddeialog wnes i ysgrifennu amdano. Yn syml, mae’r delweddau yn eu hunain yn cyfleu mwy na digon i chi ddeall.

Dwi’n edrych ymlaen i gael adborth cynulleidfaoedd o Brydain ar sut oeddynt wedi derbyn y ffilm gyda llai o ddeialog.

Roedd yn stori am gyfarfyddiadau byr, ac mi wnes i greu y ffilm yn y gobaith bod hi’n amserol falle i bobl gael gwellhad, hyd yn oed os ond tamaid bach.

Buaswn I wrth fy modd ymweld â Chymru un diwrnod. Gyda llawer o ddiolch.


Junk Head

Junk Head
© Takahide Hori

Cyfarwyddwr: Takahide Hori

Gwobr y Beirniaid Bangor am y Ffilm Orau

Rwyf mor falch o dderbyn gwobr yn y DU. Pan o’n i wrthi yn creu y ffilm (Junk Head), tybiais falle na fyddai’r arddull niche yma yn dderbyniol yn gyffredinol. O’n i wedi rhyfeddu pan ryddhawyd y ffilm, cymaint oedd wedi ei dderbyn mewn modd mor bositif. Ar ben hynny, mae’r ffaith bod fy ffilm wedi cael ei dderbyn gan bobl o dramor wedi rhoi cymaint o hyder i mi. Bellach ‘rwyn gweithio ar ddilyniad, a dwi’n mawr obeithio y gallaf sicrhau unwaith eto bydd cymaint o bobl yn gwylio fy ffilm.


Gwobrau 2021


On-Gaku

On-Gaku
© Hiroyuki Ohashi / Rock’n Roll Mountain / Tip Top

Cyfarwyddwr: Kenji Iwaisawa

Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau 2021
Gwobr Y Gynulleidfa Caerdydd am y Ffilm Orau


Children Of The Sea

Children of the Sea
©2019 Daisuke Igarashi・Shogakukan / “Children of the Sea” Committee

Cyfarwyddwr: Ayumu Watanabe

Gwobr y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau

Wrth glywed fy mod am dderbyn y wobr arbennig hon, neidiais allan o fy kotasu fy hunan mewn rhyfeddod a chyffro! Rwyf wedi breuddwydio erioed am ymweld â Chymru! Rwyf wrth fy modd bod Plant y Môr – Children of the Sea wedi cael ei ddangos yno, a mawr obeithiaf y bu’n fuddiol i gynulleidfa’r ŵyl gael profi cyfoethogrwydd anime. Rhannu gwres ( gyda kotatsu) a rhannu emosiynau trwy genre anime – am gyfuniad gwych! Pan o’n i’n fyfyriwr, roeddwn i’n gosod y kotatsu ar fy futon gan gysgu yno, felly mae gen i gysylltiad cryf gyda’r kotatsu. Mae ein holl aelodau staff yn falch iawn o fod yn rhan o hanes Gŵyl Kotatsu. Llu o ddiolch! Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i ddyfodol yr ŵyl.


Josée, The Tiger and The Fish

Josee, the Tiger and the Fish
©2020 Seiko Tanabe / KADOKAWA / Josee Project

Cyfarwyddwr: Kotaro Tamura

Gwobr y Gynulleidfa Aberystwyth am y ffilm orau

Clywais bod Gŵyl Animeiddio Kotatsu yn dathlu penblwydd yn 11 oed ac mai dyma’r flwyddyn gyntaf iddi gyflwyno gwobrau. A’n ffilm anime ninnau, Josee, the Tiger and the Fish, wedi ei ethol am y wobr gyntaf erioed! Mae’n anrhydedd arbennig i mi.  Stori oedd hon wedi ei ehangu o’r nofel gan Seiko Tanabe yn ôl yn 1984. Trwy ei addasu’n ffilm, mae wedi trosesgyn amser a ffiniau, gan gyrraedd calonnau pobl yng Nghymru, sy’n rhyfeddol. Mae’r staff i gyd wrth eu boddau cael rhannu eu llwyddiant gyda chi. Diolch unwaith eto i bawb wnaeth bleidleisio dros y ffilm yma. Os byddwch byth yn wynebu unrhyw rwystrau, cofiwch am wên Josee a Tsuneo. Boed i Ŵyl Animeiddio Kotatsu fynd o nerth i nerth a llwyddo am flynyddoedd i ddod.