Gwobr y Beirniaid
Pob blwyddyn mae ein panel o feirniaid, i gyd un yn flaengar yn y diwydiant animeiddio, yn anrhydeddu y ffilm orau ym mhob lleoliad.
Isod mae cofnod o’r holl enillwyr ers i ni gyflwyno y gwobrau hyn yn 2021.
Gwobr y Gynulleidfa
Mae ein cynulleidfaoedd ym mhob lleoliad yn pleidleisio dros eu hoff ffilm.
Gwobrau 2025
Cyfarwyddwr: Shinnosuke Yakuwa
Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau
Cyfarwyddwr: Naoko Yamada
Gwobr y Gynulleidfa Caerdydd am y ffilm Orau
Ghost Cat Anzu

©Takashi Imashiro / Kodansha
Cyfarwyddwr: Yôko Kuno, Nobuhiro Yamashita
Gwobr y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau
Cyfarwyddwr: Satoshi Kon
Gwobr Y Gynulleidfa Aberystwyth am y Ffilm Orau
Gwobrau 2024
Cyfarwyddwr: Satoshi Kon
Gwobr Y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau
Cyfarwyddwr: Yoshimi Itazu
Gwobr y Gynulleidfa Caerdydd am y ffilm Orau
Gwobr Y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau
Lupin III: The Castle of Cagliostro

© Monkey Punch All Rights Reserved.
© TMS All Rights Reserved.
Cyfarwyddwr:Hayao Miyazaki
Gwobr y Gynulleidfa Aberystwyth am y ffilm Orau
Cyfarwyddwr: Masashi Kawamura | Iku Ogawa
Gwobr Gynulleidfa Caerdydd am y Ffilm Orau
Diolch o galon am fy anrhydeddu gyda Gwobr y Gynulleidfa. ‘Rwyn hynod o hapus bod y prosiect hwn yn denu cymaint o gariad, hyd yn oed fel peilot o ffilm. Ar hyn o bryd ‘rydyn ni wrthi’n ddyfal tu hwnt yn troi hwn yn ffilm llawn gan ddefnyddio y delweddau ffilm a’n sgript sydd newydd ei orffen. Buaswn i’n gwerthfawrogi’n fawr eich cefnogaeth wrth i ni balu ymlaen tua’r terfyn.
Masashi Kawamura (Cyfarwyddwr)
Diolch yn fawr iawn i Ŵyl Animeiddio Kotatsu ac i bawb yn y gynulleidfa! Dwi mor mor falch o dderbyn Gwobr y Gynulleidfa. Ond megis y dechreuad yw’r ffilm fer hon. ‘Rydym wedi bod yn gwneud ein gorau glas i greu prif ffilm o HIDARI, felly cadwch lygad barcud am ein newyddion!
Iku Ogawa (Cyd-Gyfarwyddwr)
Cyfarwyddwr: Honami Yano
Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Fer Orau
Hoffwn estyn fy ngwerthfawrogiad o’r galon o dderbyn Gwobr y Beirniaid yng Ngŵyl Animeiddio Kotatsu eleni. Roedd bod yn rhan o Ddetholiad Chitose yn fraint yn ei hunan, a meddyliais erioed byddai fy ffilm i yn cael ei gymeradwyo gyda’r fath wobr arbennig. ‘Rwyn hynod ddiolchgar i’r beirniaid, trefnwyr yr Ŵyl ac i bawb ddaeth i wylio fy ffilm.
Yn y ffilm hon cyfleir honekami (brathu esgyrn), traddodiad sy’n dal i gael ei arfer mewn rhai rhannau ar draws Japan, lle mae galarwyr yn cymryd darnau o esgyrn eu hanwyliaid ar ôl amlosgiad a’u rhoi yn eu cegau*. Trwy’r ddefod hon mae’r person a gollwyd yn dod yn rhan ohonyn’ nhw, ac yn eu helpu i orchfygu eu teimladau o dristwch a galar. Mae gweddillion yr ymadawedig yn bodoli ar y cyd yn yr un gofod, rhwng y presennol a’r gorffennol, a phrif thema y ffilm hon yw fy llidwyneb i gyda’r esgyrn nad o’n i’n gallu rhoi yn fy ngheg.
Dwi’n mawr obeithio y gallaf barhau i greu gweithiau sy’n caniatáu i mi rannu fy mhrofiadau a’m straeon gyda phawb. Diolch yn fawr iawn.
*Yn Japan dydy gweddillion o amlosgfa ddim yn lludw mân fel sy’n arferol yn y Gorllewin
Gwobrau 2023
The First Slam Dunk

© I.T. PLANNING, INC.
© 2022 THE FIRST SLAM DUNK Film Partners
Cyfarwyddwr: Takehiko Inoue
Gwobr Y Gynulleidfa Caerdydd am y Ffilm Orau
Gwobr y Gynulleidfa Aberystwyth am y ffilm orau
Gwobr Y Gynulleidfa Bangor am y Ffilm Orau (Enillwyr Cydradd)
Gwobr y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau
Cyfarwyddwr: Yasuhiro Yoshiura
Gwobr Y Gynulleidfa Bangor am y Ffilm Orau (Enillwyr Cydradd)
Cyfarwyddwr: Keiichi Hara
Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau
Cyfarwyddwr: Masaki Tachibana
Gwobr y Beirniaid Bangor am y Ffilm Orau
Gwobrau 2022
Cyfarwyddwr: Masaaki Yuasa
Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau
Gwobr Y Gynulleidfa Caerdydd am y Ffilm Orau
Gwobr y Gynulleidfa Aberystwyth am y ffilm orau
Rwyf yn hynod o gyffrous o glywed y newyddion bod “INU-OH” wedi ennill Gwobr y Beirniaid yn Chapter a Gwobr y Gynulleidfa yn Chapter ac yn Aberystwyth!!
Lleolir stori INU-OH yn yr hen Japan, ac er bod rhannau o’r ffilm falle yn anodd i’w deall, gall y math yma o ddigwyddiadau a’r math yma o bobl fod wedi digwydd a bodoli ymhobman. Rwyf mor falch bod pobl Cymru wedi mwynhau y teitl hwn.
Diolch o galon!!
The House of the Lost on the Cape

Cyfarwyddwr: Shinya Kawatsura
Gwobr y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau
Rwyf mor falch o dderbyn gwobr yng Ngŵyl Animeiddio Kotatsu.
Stori mewn tref fechan, deufis ar ôl y Daeargryn Fawr yn Nwyrain Japan, yn mis Mawrth 2011, yw sail y ffilm.
Cafodd dinistr y daeargryn enfawr hwn argraff ddirdynnol ar bobl Japan. O ganlyniad prin iawn o ddeialog wnes i ysgrifennu amdano. Yn syml, mae’r delweddau yn eu hunain yn cyfleu mwy na digon i chi ddeall.
Dwi’n edrych ymlaen i gael adborth cynulleidfaoedd o Brydain ar sut oeddynt wedi derbyn y ffilm gyda llai o ddeialog.
Roedd yn stori am gyfarfyddiadau byr, ac mi wnes i greu y ffilm yn y gobaith bod hi’n amserol falle i bobl gael gwellhad, hyd yn oed os ond tamaid bach.
Buaswn I wrth fy modd ymweld â Chymru un diwrnod. Gyda llawer o ddiolch.
Cyfarwyddwr: Takahide Hori
Gwobr y Beirniaid Bangor am y Ffilm Orau
Rwyf mor falch o dderbyn gwobr yn y DU. Pan o’n i wrthi yn creu y ffilm (Junk Head), tybiais falle na fyddai’r arddull niche yma yn dderbyniol yn gyffredinol. O’n i wedi rhyfeddu pan ryddhawyd y ffilm, cymaint oedd wedi ei dderbyn mewn modd mor bositif. Ar ben hynny, mae’r ffaith bod fy ffilm wedi cael ei dderbyn gan bobl o dramor wedi rhoi cymaint o hyder i mi. Bellach ‘rwyn gweithio ar ddilyniad, a dwi’n mawr obeithio y gallaf sicrhau unwaith eto bydd cymaint o bobl yn gwylio fy ffilm.
Gwobrau 2021
On-Gaku

© Hiroyuki Ohashi / Rock’n Roll Mountain / Tip Top
Cyfarwyddwr: Kenji Iwaisawa
Gwobr y Beirniaid Caerdydd am y Ffilm Orau 2021
Gwobr Y Gynulleidfa Caerdydd am y Ffilm Orau
Children Of The Sea

©2019 Daisuke Igarashi・Shogakukan / “Children of the Sea” Committee
Cyfarwyddwr: Ayumu Watanabe
Gwobr y Beirniaid Aberystwyth am y Ffilm Orau
Wrth glywed fy mod am dderbyn y wobr arbennig hon, neidiais allan o fy kotasu fy hunan mewn rhyfeddod a chyffro! Rwyf wedi breuddwydio erioed am ymweld â Chymru! Rwyf wrth fy modd bod Plant y Môr – Children of the Sea wedi cael ei ddangos yno, a mawr obeithiaf y bu’n fuddiol i gynulleidfa’r ŵyl gael profi cyfoethogrwydd anime. Rhannu gwres ( gyda kotatsu) a rhannu emosiynau trwy genre anime – am gyfuniad gwych! Pan o’n i’n fyfyriwr, roeddwn i’n gosod y kotatsu ar fy futon gan gysgu yno, felly mae gen i gysylltiad cryf gyda’r kotatsu. Mae ein holl aelodau staff yn falch iawn o fod yn rhan o hanes Gŵyl Kotatsu. Llu o ddiolch! Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i ddyfodol yr ŵyl.
Josée, The Tiger and The Fish

©2020 Seiko Tanabe / KADOKAWA / Josee Project
Cyfarwyddwr: Kotaro Tamura
Gwobr y Gynulleidfa Aberystwyth am y ffilm orau
Clywais bod Gŵyl Animeiddio Kotatsu yn dathlu penblwydd yn 11 oed ac mai dyma’r flwyddyn gyntaf iddi gyflwyno gwobrau. A’n ffilm anime ninnau, Josee, the Tiger and the Fish, wedi ei ethol am y wobr gyntaf erioed! Mae’n anrhydedd arbennig i mi. Stori oedd hon wedi ei ehangu o’r nofel gan Seiko Tanabe yn ôl yn 1984. Trwy ei addasu’n ffilm, mae wedi trosesgyn amser a ffiniau, gan gyrraedd calonnau pobl yng Nghymru, sy’n rhyfeddol. Mae’r staff i gyd wrth eu boddau cael rhannu eu llwyddiant gyda chi. Diolch unwaith eto i bawb wnaeth bleidleisio dros y ffilm yma. Os byddwch byth yn wynebu unrhyw rwystrau, cofiwch am wên Josee a Tsuneo. Boed i Ŵyl Animeiddio Kotatsu fynd o nerth i nerth a llwyddo am flynyddoedd i ddod.















