Dyddiad: Dydd Gwener 29 Tachwedd 2024, 13:00 GMT
Digwyddiad sgwrs ar-lein wedi’i gynnal ar Zoom
Dim cost – ond mae archebu lle yn hanfodol
Cyflwynir y sgwrs hon gyda dehongliad yn Iaith Arwyddion Prydain

Am y Digwyddiad
Fel rhan o Ŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu 2024, ac mewn partneriaeth â Sefydliad Japan Llundain, mae’r cyfarwyddwr animeiddio Ogawa Iku yn ymuno â ni am sgwrs arbennig iawn sy’n rhoi cipolwg tu ôl i’r llenni o’r grefft o wneud ffilmiau stop-symud.
Yma ceir mewnwelediad unigryw i gyfeiriad a phrosesau creu cymeriad y gweithiau animeiddiedig y mae wedi bod yn rhan ohonynt, megis HIDARI (a ddangoswyd yng Ngŵyl Kotatsu 2024) a Pokémon Concierge Netflix. Bydd Ogawa hefyd yn trafod sut beth yw gweithio yn niwydiant animeiddio Japan – peidiwch â cholli’r cyfle prin hwn i ddarganfod ei weithrediad mewnol hynod ddiddorol!
Cyflwynir y sgwrs hon gyda dehongliad yn Iaith Arwyddion Prydain.

Am Ogawa Iku
Ganed yn Tokyo ym 1988. Cwblhaodd radd meistr mewn animeiddio yn Ysgol Ffilm a Chyfryngau Newydd i Raddedigion, Prifysgol Celfyddydau Tokyo. Dechreuodd greu animeiddiadau stop-symud mewn Coleg i raddedigion ac ymunodd â stiwdios dwarf yn 2016.
Ei brif weithiau yw’r gyfres Netflix Pokémon Concierge (a enwebwyd ar gyfer y categori “Y Cyfarwyddo Gorau – Teledu / Cyfryngau” yng Ngwobrau Annie), cyfres Netflix Rilakkuma’s Theme Park Adventure (penodau 2 a 5), NHK Puchi Puchi Anime Akikan no Tsuna (Tiwna mewn Tin Gwag), HIDARI (wedi’i chyd-gyfarwyddo gyda Kawamura Masashi), a mwy .