Isod ceir rhestr gyflawn o’r gwobrau raffl i’w hennill. Bydd tocynnau raffl ar gael ar stondin Kotatsu yn ystod yr ŵyl am 50c yr un.
PRIF WOBR

Thrwydded ar gyfer Meddalwedd Animeiddio Moho
Trwy garedigrwydd Moho
Mae gennym dri thrwydded ar gyfer Meddalwedd Animeiddio Moho fel ein prif wobr eleni.

ZERO PARADES: For Dead Spies (Cynnwys i oedolion yn unig)
Trwy garedigrwydd Bumpy Box
Daw ZERO PARADES, RPG ysbio, o law Disco Elysium, gyda chymorth Bumpybox, stiwdio animeiddio leol. Ti’n weithredwr gwych, ond mewn gwewyr, ar aseiniad terfynol gwbl anobeithiol. Casgla dy rwydwaith toredig, datgysyllta’r we o gelwyddau, ond profa dy hun ar lwyfan y byd – neu ffrwydra’r cyfan unwaith yn rhagor.

Gwobr Dirgel
Trwy garedigrwydd Noddwr Dienw
Diolch i’n cefnogwr caredig, mae gennym anrheg wych i chi eleni. Dydyn ni ddim am roi unrhyw gliwiau, felly dewch i’n gŵyl i ddarganfod mwy!

Peidiwch â’m hanghofio
Trwy garedigrwydd Sarah Cliff


Hylif Shio Koji
Trwy garedigrwydd Hanamaruki Foods Inc
Mae “Koji” yn reis brag a ddefnyddir yn y broses eplesu ar gyfer miso, sake, saws soy a bwydydd eraill. Mae Shio Koji yn atodiad bwyd Japaneaidd traddodiadol wedi’i wneud o reis koji wedi’i eplesu a halen. Dim ond blasau a lliw naturiol sydd ynddo, ac nid yw’n cynnwys unrhyw ychwanegion. Gall unrhyw un goginio ryseitiau Japaneaidd blasus yn rhwydd gyda Hylif Shio Koji. Ar gael hefyd o Siop Gwin Reis yn Llundain.

Set Blu-ray/DVD
Trwy garedigrwydd MVM Entertainment
- Trinity Blood + Tsurune
- Non Non Biyori Nonstop+Dog & Scissors













