
Sgwrs ar Zoom Am Ddim gyda FUJITSU Ryota
Tachwedd 10, 2023 @ 6:30pm
Cefnogwyr anime! Os ydych chi’n caru robotiaid enfawr, mae hwn ar eich cyfer chi! Ymunwch â ni ar Dachwedd 10fed am sgwrs ar-lein gan FUJITSU Ryota, beirniad anime, wrth i ni archwilio esblygiad peiriannau fel cymeriadau mewn gweithiau animeiddio Japaneaidd. Cynhelir y sgwrs ar Zoom, felly bydd angen gosod Zoom Client ar eich dyfais i gymryd rhan.
Mewn partneriaeth â Sefydliad Japan Llundain.
Fel rhan o Ŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu 2023, bydd FUJITSU Ryota, prif feirniad animeiddio Japan, yn dadorchuddio mecha-anime o Japan, gan roi arolwg o’i nodweddion. Bydd hefyd yn trafod yn y sgwrs ar-lein arbennig hon, hynt y genre hwn mewn stori yn ogystal ag arddull, tra’n cyfeirio at yr amgylchiadau cymdeithasol a’r gwylwyr pan wnaed y gweithiau hyn.
FUJITSU Ryota
Beirniad anime Japaneaidd. Daeth yn awdur llawrydd ar ôl gweithio fel gohebydd papur newydd a golygydd cylchgrawn wythnosol. Mae ei waith ysgrifennu yn canolbwyntio’n bennaf ar bynciau sy’n ymwneud ag anime ac mae wedi cael sylw mewn cylchgronau, llyfrynnau BD, a chyfryngau gwe. Mae ei lyfrau yn cynnwys Anime ‘hyoronka’ sengen (The Declaration of an ‘Anime Critic’, 2003), a Channeru wa itsumo anime (Channels Are Always Anime, 2010). Mae FUJITSU Ryota hefyd yn gweithio fel darlithydd atodol ym Mhrifysgol Polytechnig Tokyo ac mae’n dal swydd cynghorydd rhaglennu ar gyfer adran anime Gŵyl Ffilm Ryngwladol Tokyo.