Crynodeb Gŵyl Kotatsu Aberystwyth 2025
Gwe Hydref 24
17:30
The Girl Who Leapt Through Time (12)
19:30
Summer Wars (12A)
Sad 25th Oct
10:30
Wolf Children (PG)
13:00
Totto-Chan (PG TBC)
15:30
Demon Slayer: Kimetsu no Yaiba – The Movie: Infinity Castle (15)
18:00
Raffl
18:30
Perfect Blue (18)
Sul 26th Oct
13:40
Ghost Cat Anzu (PG)
15:30
The Colors Within (U)
17:20
COLORFUL STAGE!The Movie: A Miku Who Can’t Sing (12A TBC)
Oni nodir yn wahanol, mae pob ffilm yn yr iaith Japaneaidd gydag isdeitlau Saesneg.
Am wybodaeth am docynnau cysylltwch â:
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth on +44 (0)1970 62 32 32
Gwe Hydref 24
17:30 The Girl Who Leapt Through Time(12)

Mae Makoto yn ferch nodweddiadol yn ei harddegau sy’n treulio’r rhan fwyaf o’i dyddiau yn ymlacio gyda ffrindiau. Un diwrnod wrth ruthro i gyfarfod â’i modryb, mae bron â chael ei tharo gan drên, ond ar yr eiliad olaf, mae’n neidio’n ôl mewn amser i’r cyfnod cyn y ddamwain. Mae hi’n defnyddio ei gallu newydd ar unwaith i ail-wneud pob anghyfleustra baychan – o ganlyniadau arholiadau gwael i gyffesau lletchwith o gariad. Fodd bynnag, wrth wynebu canlyniadau ymyrryd gydag amser, rhaid i Makoto wneud popeth o fewn ei gallu i osgoi dyfodol difrifol na ellir ei wrthdroi.
Mae The Girl Who Leapt Through Time yn un o ffilmiau cynnar hoffus gan Mamoru Hosoda, y cyfarwyddwr a enwebwyd am Wobr yr Academi, y enwog am BELLE, Wolf Children, Summer Warsa mwy. Mae Hosoda yn plethu’r delweddau hir-hoedlog, trawiadol sydd mor nodweddiadol ohono gyda stori dyner am ferch yn ymdopi gyda chariad cyntaf, teithio amser, a’r dewisiadau peryglus a ddaw yn sgîl y ddau.
Japan | 2006 | 98m | 12 | Mamoru Hosoda | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg | F-Rated | Trelar
19:30 Summer Wars(12A)

Mae Kenji yn gymedrolwr swil, rhan-amser ar gyfer OZ, y byd realiti rhithwir sy’n pweru bywyd bob dydd, nes bod Natsuki, merch hardd a phoblogaidd, yn ei recriwtio i fod yn gariad ffug iddi. Wrth esgus bod yn gariad cyfoethog i deulu Natsuki, mae Kenji yn darganfod bod rhaglen AI twyllodrus wedi dwyn ei hunaniaeth ar-lein, ac mae Kenji yn cael ei gyhuddo o hacio OZ ac achosi trychinebau yn y byd go iawn. Wrth i’r dinistr yn OZ daflu teulu Natsuki i anhrefn, rhaid i Kenji uno ei gysylltiadau newydd i oresgyn apocalyps seiber sydd ar ddod. Wedi ei osod mewn cefndir o olygfeydd cefn gwlad godidog a mannau rhithwir llawn lliw, mae Summer Wars yn epig amserol sy’n archwilio bywyd yn yr oes ddigidol gan y cyfarwyddwr a enwebwyd am Wobr yr Academi®, Mamoru Hosoda (BELLE).
Japan | 2009 | 1h 54m | 12A |Mamoru Hosoda | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg | Trelar
Sad 25th Oct
10:30 Wolf Children (PG)

Mae’r fyfyrwraig coleg Hana yn syrthio mewn cariad â “blaidd-ddyn” ac mae ganddyn nhw ddau blentyn hanner-dynol, hanner-blaidd, Ame a Yuki. Daw bywyd dedwydd a syml y teulu ifanc i ben yn sydyn pan gaiff y tad ei ladd yn drasig yn ystod helfa. Ar ôl brwydro i fagu ei phlant yn y ddinas brysur, mae Hana yn penderfynu’n feiddgar symud i dŷ adfeiliedig yng nghefn gwlad, gan obeithio y gall ei phlant un diwrnod benderfynu ar eu llwybr eu hunain i hapusrwydd – boed yn “ddynol” neu’n “flaidd”. Mae’r stori dylwyth teg fodern, ddirdynnol hon yn gyflwyniad eithriadol, llawn harddwch ac emosiwn, gan y cyfarwyddwr a enwebwyd am Wobr yr Academi®, Mamoru Hosoda. Yn gyfoeth o animeiddio godidog ac wedi’i osod i sgôr gerddorol deimladwy, mae Wolf Children yn stori ysgubol am hunan-ddarganfyddiad a chwlwm teulu.
Japan | 2012 | 1h 57m | PG |Mamoru Hosoda | Japanese with English subtitles| Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg | F-Rated | Trelar
13:00 Totto-Chan(PG TBC)

Yn Tokyo, ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd, mae ysgol sy’n cyfuno dysgu â hwyl, rhyddid a chariad. Yn yr ysgol anarferol hon hen gerbydau rheilffordd yw’r ystafelloedd dosbarth, ac mae’n cael ei rhedeg gan ddyn rhyfeddol, Sosaku Kobayashi, ei sylfaenydd a’i phennaeth, sy’n credu’n gryf mewn rhyddid mynegiant a gweithgaredd. Dyma Totto-chan yn cyrraedd, merch fach fywiog nad yw’n ffitio i mewn yn ei hysgol gynradd wreiddiol. Diolch i’r pennaeth Sosaku, bydd Totto-chan yn cwrdd â myfyrwyr unigryw ac yn dysgu pethau newydd, hyd yn oed pan fydd Japan yn mynd i ryfel.
Japan | 2023 | 1h 54m | TBC | Shinnosuke Yakuwa | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg
15:30 Demon Slayer: Kimetsu no Yaiba – The Movie: Infinity Castle(15)

Mae’r bennod terfynol hir-ddisgwyliedig o un o’r animeiddiadau Japaneaidd mwyaf poblogaidd a wnaed erioed ar fin cychwyn. Yn benderfynol o atal Muzan unwaith ac am byth, mae Tanjiro a’r Demon Slayer Corps yn mentro i gadarnle’r cythraul, lle mae’r frwydr ar droed ar gyfer yr ornest olaf.
Japan | 2025 | 2h 35m | 15 | Haruo Sotozaki | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg | Trelar
18:00 Raffl

Bydd tocynnau ar gyfer raffl eleni ar gael yn ystod yr ŵyl, ar stondin Kotatsu.
Tocynnau yn 50c yr un.
Ceir manylion llawn y gwobrau ar ein tudalen raffl.
18:30 Perfect Blue (18)

Gan gefnu ar y byd J-pop mae Mima Kirigoe yn dechrau bywyd newydd fel actores ar sioe ddrama drosedd o’r enw Double Blind. Pan gynigir prif ran yn y sioe iddi hi fel dioddefwr trais rhywiol, mae Mima yn derbyn y rôl er gwaethaf amheuon ei rheolwr. Fodd bynnag, mae’r adwaith gan gefnogwyr ynghylch ei newid gyrfa a gwefan ryfedd o’r enw ‘Mima’s Room’ a grewyd gan Mima ffug yn dechrau ei phoeni. Pan fydd stelciwr yn ymddangos a phobl sy’n ymwneud â Double Blind yn dechrau troi i fyny’n farw a’r holl dystiolaeth yn cyfeirio ati hi, mae Mima yn mynd i gyflwr o ddryswch llwyr, gwallgofrwydd a pharanoia.
Wedi’i gyfarwyddo gan y diweddar Satoshi Kon ac wedi’i ganmol gan y beirniaid fel un o’r enghreifftiau gorau o ffilm gyffro animeiddiedig, bydd Perfect Blue yn eich arswydo ac yn eich gadael yn lled ofnus.
Japan | 1998 | 1h 21m | 18 | Satoshi Kon | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg | Trelar
Sul 26th Oct
13:40 Ghost Cat Anzu(PG)

Yn 11 oed mae Karin yn cael ei gadael gan ei thad mewn tref fechan yn Japan, lle trigai ei thaid, sy’n fynach. Mae ei thaid yn gofyn i Anzu, ei gath ysbrydol, sy’n hwyliog a defnyddoiol, er tamaid yn wamal, i ofalu amdani. Wrth i’w personolaiaethau bywiog wrthdaro, mae pethau’n tanio rhyngddynt – er dim ond ar y cychwyn.
Japan | 2024 | 1h 37m | PG| Yôko Kuno, Nobuhiro Yamashita | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg| F-Rated | Trelar
15:20 The Colors Within (U)

Myfyrwraig ysgol uwchradd yw Totsuko gyda’r gallu i weld ‘lliwiau’ pobl eraill. Lliwiau o hapusrwydd, cyffro a sirioldeb, yn ogystal â’r lliw mae hi’n ei drysori fel ei ffefryn. Mae Kimi, cyd-ddisgybl yn ei hysgol, yn cyfleu y lliw mwyaf prydferth o’r cyfan. Er nad yw Totsuko yn chwarae offeryn, mae hi’n ffurfio bandgyda Kimi a Rui, un tawel ond brwdfrydig am gerddoriaeth. Wnaethant gwrdd mewn siop lyfrau ail-law, yng nghornel bell o ganol y dref. Tra’n ymarfer mewn hen eglwys ar ynys anghysbell, mae’r gerddoriaeth yn eu huno, gan ennyn cyfeillgarwch a hoffter cyffrous rhyngddynt. Tybed a fydden nhw’n darganfod eu gwir ‘llwiau’ ?
Japan | 2024 | 1h 40m | U | Naoko Yamada | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg | F-Rated | Trelar
17:20 COLORFUL STAGE! The Movie: A Miku Who Can’t Sing (12A TBC)

Mae COLORFUL STAGE! The Movie: A Miku Who Can’t Sing yn ffilm animeiddio gan stiwdio PAWORKS sy’n cynnwys Hatsune Miku gwbl newydd. Dyma’r ffilm gyntaf hefyd i gyflwyno’r Virtual Singer eiconig. Yn seiliedig ar HATSUNE MIKU: COLORFUL STAGE!, gêm am fyfyrwyr ysgol uwchradd yn canfod eu gwir deimladau trwy gerddoriaeth mewn byd arallfydol o’r enw “SEKAI” gyda chymorth Hatsune Miku. Cerddor ysgol uwchradd yw Ichika â’r
gallu i gael mynediad i “SEKAI,” lle cyfrinachol ble mae hi a’i ffrindiau yn gallu mynegi eu hemosiynau mewnol dwys trwy gyfrwng cerddoriaeth ar y cyd â Hatsune Miku. Un diwrnod ar ôl cyflwyno perfformiad byw, mae Ichika yn cwrdd â Miku newydd nad yw hi erioed wedi ei gweld o’r blaen. Waeth pa mor galed mae’r Miku newydd yma yn ceisio canu, mae’n cael trafferth cysylltu â chalonnau ei gwrandawyr. Rhaid i Miku ddibynnu ar help eraill i ddod o hyd i ffordd o ganu unwaith eto.
Japan | 2025 | 1h 50m | 12A TBC | Hiroyuki Hata | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg | F-Rated | Trelar
Marchnad (11am – 5pm)
Kotatsu Festival Stand

Detholiad o nwyddau sy’n gysylltiedig â Kotatsu, comics, DVDs gyda phris fforddiadwy. Bydd yr holl arian a godir ar y stondin hon yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r ŵyl y flwyddyn nesaf. Er mwyn lleihau’r defnydd o fagiau plastig, dewch â’ch bagiau a’ch pocedi poli eich hun os yn bosibl.
Japan-bits

Detholiad o gymeriadau amigurumi (crosio) a nwyddau cysylltiedig â Japan.
Manga Kissa (Manga Café)- Dim cost

Mae gennym amrywiaeth eang o manga a deunyddiau darllen. Beth am bori a setlo i lawr am ychydig o ddarllen? Rydym yn gwneud ein gorau i fod yn gynaliadwy, a fyddech cystal ag ystyried rhoi eich comics/llyfrau/DVDs hoff i ni.
Peidiwch â mynd ag unrhyw un o’r llyfrau adref gyda chi. Gallwch eu prynu am bris fforddiadwy os dymunwch.
Gwobr Beirniaid Ffilm Kotatsu
Bydd ffilmiau Kotatsu yn cael eu beirniadu gan banel o dri beirniad.
Dr Dario Lolli

Comisiynwyd ei ffilm fer gyntaf, Passenger, gan Ffilm Cymru Wales, BBC Cymru, a Rhwydwaith BFI Cymru yn 2022. Yn ddiweddar, gorffennodd Nia gynhyrchu ffilm arall a ariannwyd gan Ffilm Cymru, Specter of the Bear, sydd bellach ar gylchdaith y gwyliau ffilm. Pan nad yw Nia yn gor-wylio anime, yn dysgu’r iaith Japaneaidd, nac yn meddwl am ei syniad ffilm nesaf, mae’n parhau i dreulio ei hamser yn cydweithio â thalent leol Gymreig a’u helpu i greu eu peilotiaid teledu a ffilmiau byr.
Seiji Kano

Mae Seiji Kano yn ysgolhaig ym maes ffilm ac wedi ei apwyntio yn Athro ym Mhrifysgol Tokyo Zokei. Bu’n darlithio hefyd ym Mhrifysgol Asia, Prifysgol Celf a Dylunio Joshibi a Phrifysgol Taisho.
Fel cyfarwyddwr Sefydliad Isao Takahata a Ffilmiau Hayao Miyazaki, bu’n cynghori, yn areithio a chyfranodd at gatalog Arddangosfa Akahata Isao – The Man who Planted Japanese Animation.
Cyfarwyddodd a threfnodd yr arddangosfa Ohtsuka Yasuo Exhibition: Toy Box of Animation & Military, ac mae wedi cyfrannu llawer o erthyglau i gylchgrawn Ronza yr Asahi Shimbun, ymhlith llawer o gyhoeddiadau eraill.
Mae hefyd wedi golygu a chreu y llyfrau canlynol: Ohtsuka Yasuo: Miscellany of a Hobbyist (dourakumono zakkijou), Ohtsuka Yasuo: Social Chronicles of a Hobbyist (dourakumono kouyuuki), a Panda! Go, Panda! Fanbook. Bu’n brif olygydd o Filmmakers 25: Isao Takahata. Fel awdur mae e’ wedi ysgrifennu The Complete Hayao Miyazaki, Light and Shadow in Frozen (Anna to yuki no jouou no hikari to kage), a The Pioneers of Japanese Animation: New Edition (Nihon no animeshon wo kizuita hitobito shinban), ymhlith llawer o weithiau eraill.
Yuichi Ito

Ganed yn nhalaith Shizuoka yn 1955. Yn ystod ei flynyddoedd yn y brifysgol, fe ddysgodd ei hunan i gynhyrchu animeiddiadau pypedau stop-symud gan ddefnyddio ffilm 8mm. O ganlyniad enillodd enw da iddo’i hun yn y maes a’i sbardunodd i ganolbwyntio ar animeiddio. Ar ôl graddio, bu’n gweithio mewn cwmni masnachol yn cynhyrchu gwaith animeiddio; yno creodd ystod eang o hysbysebion gydag effeithiau arbennig, gan ddefnyddio technegau animeiddio, o cel i CGI cynnar a rheoli symudiadau. Pryd hynny darganfu swyn animeiddio gyda chymeriadau wedi eu llunio â llaw o glai, ac aeth i weithio ar ei liwt ei hun gan sefydlu ei gwmni ei hun. Mae o wedi creu nifer o animeiddiadau clai, gan gynnwys hysbysebion ac animeiddiadau sy’n agor rhaglenni teledu.