Isod ceir rhestr gyflawn o’r gwobrau raffl i’w hennill. Bydd tocynnau raffl ar gael ar stondin Kotatsu yn ystod yr ŵyl am 50c yr un.
PRIF WOBR

Gon – Poster Y Llwynog Bach, wedi’i lofnodi
Trwy garedigrwydd Takeshi Yashiro
Poster Gon wedi’i lofnodi gan ein gwesteion arbennig. Nid yw’r ddelwedd a ddangosir o reidrwydd yn cynrychioli’r poster ei hun.
Pyped Llinell Gymorth Hana
Trwy garedigrwydd of Calon TV
Pyped Francis o’r gyfres deledu Hana’s Helpline.
Amrywiol
Set Blu-ray/DVD 1
Trwy garedigrwydd of MVM Entertainment
- Log Horizon Series 2 (BD)
- The Asterisk War (DVD)
Talebau Rhodd


Taleb Rhodd £10
Trwy garedigrwydd T.K. Trading
Mae’r siop fwyd Japaneaidd ar-lein fwyaf yn y DU wedi cyfrannu’r taleb rhodd hwn.


Talebau Rhodd Yakiniku
Trwy garedigrwydd Seoul House Restaurant
Mwynhewch eich hun trwy flasu bwydydd rhagorol o Japan a Corea yn y bwyty poblogaidd hwn.

Hylif Shio Koji
Trwy garedigrwydd Hanamaruki Foods Inc
Mae “Koji” yn reis brag a ddefnyddir yn y broses eplesu ar gyfer miso, sake, saws soy a bwydydd eraill. Mae Shio Koji yn atodiad bwyd Japaneaidd traddodiadol wedi’i wneud o reis koji wedi’i eplesu a halen. Dim ond blasau a lliw naturiol sydd ynddo, ac nid yw’n cynnwys unrhyw ychwanegion. Gall unrhyw un goginio ryseitiau Japaneaidd blasus yn rhwydd gyda Hylif Shio Koji. Ar gael hefyd o Siop Gwin Reis yn Llundain.

lwch Melysion Da-gashi (Ffrwythau Sych)
Trwy garedigrwydd Ami Nature
Arlunydd, o oes Showa, oedd Katsuji Matsumoto a gymerodd ran weithredol fel peintiwr telynegol, cartwnydd, peintiwr lluniau ar gyfer pobl ifanc a chynhyrchydd nwyddau. Yn 1938 ymddangosodd comic o’r enw “Kurukuru Kurumi-chan (Spinning Walnut)” a gafodd ei gyfresoli am 35 mlynedd. Daeth nwyddau perthnasol i ddilyn a datblygodd y prif gymeriad yn hynod boblogaidd ymhlith merched. Er mwyn adfywio hen luniau clasurol, defnyddiodd cwmni Ami Nature luniau Katsuji ar gyfer eu pecynnau, gan werthu dramor ffrwythau sych heb ychwanegion o ardal Yamanashi fel “bwyd naturiol rhad”.
New Welsh Review – Rhifyn Medi 2019
Trwy garedigrwydd New Welsh Review
Mynnwch rifyn Medi 2019 o’r New Welsh Review, ynghyd â llyfrnod lledr o gylchrediad cyfyngedig.