Author: kotatsufestival

  • Raffl Aberystwyth 2025

    Raffl Aberystwyth 2025

    Siawns i ennill gwobrau hyfryd yn yr ŵyl pan brynwch eich tocynnau, a chyfranwch tuag at ddigwyddiadau rhad ac am ddim gan Kotatsu yn y dyfodol. Dim ond 50c y tocyn.

    PRIF WOBR


    Gwaith Celf Cel– Billy the Cat

    Trwy garedigrwydd Calon TV

    Gwaith celf cel gwreiddiol o’r gyfres deledu Billy the Cat.


    (more…)
  • Raffl Tape 2025

    Raffl Tape 2025

    Siawns i ennill gwobrau hyfryd yn yr ŵyl pan brynwch eich tocynnau, a chyfranwch tuag at ddigwyddiadau rhad ac am ddim gan Kotatsu yn y dyfodol. Dim ond 50c y tocyn.

    PRIF WOBR


    Ysbryd Japan – 4 x 5cl

    Trwy garedigrwydd The Wasabi Company

    Mae Set Rhodd Ysbryd Japan yn cynnwys potel 50ml o bob un o’n gwirodydd unigryw sydd wedi ennill gwobrau di-ri: Vodka Wasabi, Yuzucello, Rym Sbeislyd Sansho a Jin Shiso. Mae’r holl wirodydd crefft hyn, sydd wedi’u hysbrydoli gan flasau Japan, yn enillwyr Gwobr Great Taste, gyda’n Rym Sbeislyd Sansho yn ennill y wobr tair seren nodedig.


    (more…)
  • Cydweithrediad Ebrill: Kotatsu yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd

    Cydweithrediad Ebrill: Kotatsu yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd

    Paratowch ar gyfer cyfoeth o ddisgleirdeb sinematig Japan ym mis Ebrill eleni wrth i Ŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu ymuno â Gŵyl Animeiddio Caerdydd i ddod â thrysor unigryw o animeiddio Japaneaidd i chi, yn cynnwys dwy ffilm ryfeddol, BLUE GIANT a Lonely Castle in the Mirror.

    Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn cychwyn ar Ebrill 25, 2024, gan ddod â detholiad gwych arall o bopeth yn ymwneud ag animeiddio i chi. Edrychwch ar eu rhaglen gyflawn o raglenni yn https://www.cardiffanimation.com, neu twriwch gan ddefnyddio #CAF24.


    Dydd Sadwrn Ebrill 27


    3:50 Lonely Castle in the Mirror

    ©2022 “Lonely Castle in the Mirror” Film Partners

    Sinema 2

    Mae saith o bobl ifanc yn darganfod bod drychau eu hystafelloedd gwely yn byrth, ac fe’i tynnir o’u bywydau unig i gastell rhyfeddol sy’n llawn grisiau troellog a phortreadau gwyliadwrus. Mae merch mewn mwgwd blaidd yn eu gwahodd i chwarae gêm.

    Am wybodaeth am docynnau cysylltwch â Swyddfa Docynnau Chapter ar +44(0)1970 62 32 32

    Japan | 2022 | 116m | 12A | Keiichi Hara | F-Rated | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg |


    8:30 BLUE GIANT

    ©2023 BLUE GIANT Movie Project
    ©2013 Shinichi Ishizuka, Shogakukan

    Sinema 1

    Mae bywyd Dai Miyamoto yn newid pan mae’n darganfod jazz. Mae’n codi ei sacsoffon tenor ac yn ymarfer pob dydd. Ar ôl gadael Sendai, ei dref enedigol, mae’n dilyn gyrfa gerddoriaeth yn Tokyo gyda chymorth ei ffrind Shunji. Un diwrnod, mae Dai yn chwarae’n angerddol o’r galon ac yn argyhoeddi’r pianydd dawnus Yukinori i ffurfio band gyda’i gilydd. Ynghyd â Shunji, cyw ddrymiwr, mae nhw’n ffurfio JASS. Gyda phob perfformiad byw, mae nhw’n dod yn nes ac yn nes at berfformio yn So Blue, y clwb jazz enwocaf yn Japan, yn y gobaith o newid y byd jazz am byth. Yn seiliedig ar y manga gan Shinichi Ishizuka, gyda cherddoriaeth wreiddiol gan HIROMI.

    Am wybodaeth am docynnau cysylltwch â Swyddfa Docynnau Chapter ar +44(0)1970 62 32 32

    Japan | 2023 | 120m | 12A | Yuzuru Tachikawa | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg | Trailer


    Marchnad (11am – 5pm)


    Kotatsu Festival Stand

    Detholiad o nwyddau sy’n gysylltiedig â Kotatsu, comics, DVDs gyda phris fforddiadwy. Bydd yr holl arian a godir ar y stondin hon yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r ŵyl y flwyddyn nesaf. Er mwyn lleihau’r defnydd o fagiau plastig, dewch â’ch bagiau a’ch pocedi poli eich hun os yn bosibl.

    Wazakka

    Amrywiaeth o eitemau wedi’u gwneud â llaw fel bagiau a chodenni.

    Japan-bits

    Detholiad o gymeriadau amigurumi (crosio) a nwyddau cysylltiedig â Japan.


  • Machine As A Hero? Free Online Talk

    Machine As A Hero? Free Online Talk

    Sgwrs ar Zoom Am Ddim gyda FUJITSU Ryota
    Tachwedd 10, 2023 @ 6:30pm

    Cefnogwyr anime! Os ydych chi’n caru robotiaid enfawr, mae hwn ar eich cyfer chi! Ymunwch â ni ar Dachwedd 10fed am sgwrs ar-lein gan FUJITSU Ryota, beirniad anime, wrth i ni archwilio esblygiad peiriannau fel cymeriadau mewn gweithiau animeiddio Japaneaidd. Cynhelir y sgwrs ar Zoom, felly bydd angen gosod Zoom Client ar eich dyfais i gymryd rhan.

    Archebwch Eich Lle Nawr

    Mewn partneriaeth â Sefydliad Japan Llundain.

    Fel rhan o Ŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu 2023, bydd FUJITSU Ryota, prif feirniad animeiddio Japan, yn dadorchuddio mecha-anime o Japan, gan roi arolwg o’i nodweddion. Bydd hefyd yn trafod yn y sgwrs ar-lein arbennig hon, hynt y genre hwn mewn stori yn ogystal ag arddull, tra’n cyfeirio at yr amgylchiadau cymdeithasol a’r gwylwyr pan wnaed y gweithiau hyn.


    FUJITSU Ryota
    Beirniad anime Japaneaidd. Daeth yn awdur llawrydd ar ôl gweithio fel gohebydd papur newydd a golygydd cylchgrawn wythnosol. Mae ei waith ysgrifennu yn canolbwyntio’n bennaf ar bynciau sy’n ymwneud ag anime ac mae wedi cael sylw mewn cylchgronau, llyfrynnau BD, a chyfryngau gwe. Mae ei lyfrau yn cynnwys Anime ‘hyoronka’ sengen (The Declaration of an ‘Anime Critic’, 2003), a Channeru wa itsumo anime (Channels Are Always Anime, 2010). Mae FUJITSU Ryota hefyd yn gweithio fel darlithydd atodol ym Mhrifysgol Polytechnig Tokyo ac mae’n dal swydd cynghorydd rhaglennu ar gyfer adran anime Gŵyl Ffilm Ryngwladol Tokyo.


  • Raffl Aberystwyth 2023

    Raffl Aberystwyth 2023

    Isod ceir rhestr gyflawn o’r gwobrau raffl i’w hennill. Bydd tocynnau raffl ar gael ar stondin Kotatsu yn ystod yr ŵyl am 50c yr un.

    PRIF WOBR

    Gwaith celf

    Trwy garedigrwydd  Calon TV

    Gwaith celf cel gwreiddiol wedi’i fframio o’r gyfres animeiddiedig i blant, Meeow! (2000).


    (more…)
  • Raffl Aberystwyth 2021

    Raffl Aberystwyth 2021

    Isod ceir rhestr gyflawn o’r gwobrau raffl i’w hennill. Bydd tocynnau raffl ar gael ar stondin Kotatsu yn ystod yr ŵyl am 50c yr un.

    PRIF WOBR

    Cwmni Wasabi – Dewis o Gyfwydydd

    Trwy garedigrwydd The Wasabi Company

    Mayonnaise a mwstard â blas Yuzu a Wasabi.

    (more…)
  • Raffl Aberystwyth 2019

    Raffl Aberystwyth 2019

    Isod ceir rhestr gyflawn o’r gwobrau raffl i’w hennill. Bydd tocynnau raffl ar gael ar stondin Kotatsu yn ystod yr ŵyl am 50c yr un.

    PRIF WOBR

    StopMate Armature

    Armature Animeiddio Motion StopMate

    Trwy garedigrwydd Tetsu’s Armature

    Mae’r StopMate SM-005 yn becyn armature pêl a soced y gellir ei gydosod i greu sgerbwd mewnol ar gyfer eich pypedau humanoid. Wedi eu ddylunio gan Tetsu, peiriannydd medrus o Japan, dyma’r prif arfau stop-symud a ddefnyddir mewn prifysgolion, megis rhaglen animeiddio Prifysgol y Celfyddydau, Tokyo. Fe’i defnyddir yn broffesiynol hefyd ar gyfer ffilmiau, cyfresi teledu a hysbysebion yn y diwydiant animeiddio Japaneaidd. Mae’r armature yn symud yn llyfn iawn ac mae’n gryf iawn, gan ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer prosiectau animeiddio proffesiynol. Fe’i gwerthir yn fyd eang gan Stop Motion Store.

    (more…)
  • Raffl Cardiff 2019

    Raffl Cardiff 2019

    Isod ceir rhestr gyflawn o’r gwobrau raffl i’w hennill. Bydd tocynnau raffl ar gael ar stondin Kotatsu yn ystod yr ŵyl am 50c yr un.

    PRIF WOBR

    Screenshot from Gon

    Gon – Poster Y Llwynog Bach, wedi’i lofnodi

    Trwy garedigrwydd Takeshi Yashiro

    Poster Gon wedi’i lofnodi gan ein gwesteion arbennig. Nid yw’r ddelwedd a ddangosir o reidrwydd yn cynrychioli’r poster ei hun.

    (more…)