Isod ceir rhestr gyflawn o’r gwobrau raffl i’w hennill. Bydd tocynnau raffl ar gael ar stondin Kotatsu yn ystod yr ŵyl am 50c yr un.
PRIF WOBR

Armature Animeiddio Motion StopMate
Trwy garedigrwydd Tetsu’s Armature
Mae’r StopMate SM-005 yn becyn armature pêl a soced y gellir ei gydosod i greu sgerbwd mewnol ar gyfer eich pypedau humanoid. Wedi eu ddylunio gan Tetsu, peiriannydd medrus o Japan, dyma’r prif arfau stop-symud a ddefnyddir mewn prifysgolion, megis rhaglen animeiddio Prifysgol y Celfyddydau, Tokyo. Fe’i defnyddir yn broffesiynol hefyd ar gyfer ffilmiau, cyfresi teledu a hysbysebion yn y diwydiant animeiddio Japaneaidd. Mae’r armature yn symud yn llyfn iawn ac mae’n gryf iawn, gan ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer prosiectau animeiddio proffesiynol. Fe’i gwerthir yn fyd eang gan Stop Motion Store.