Raffl Aberystwyth 2026

Isod ceir rhestr gyflawn o’r gwobrau raffl i’w hennill. Bydd tocynnau raffl ar gael ar stondin Kotatsu yn ystod yr ŵyl am 50c yr un.

PRIF WOBR


Thrwydded ar gyfer Meddalwedd Animeiddio Moho

Trwy garedigrwydd Moho

Mae gennym dri thrwydded ar gyfer Meddalwedd Animeiddio Moho fel ein prif wobr eleni.


ZERO PARADES: For Dead Spies (Cynnwys i oedolion yn unig)

Trwy garedigrwydd Bumpy Box

Daw ZERO PARADES, RPG ysbio, o law Disco Elysium, gyda chymorth Bumpybox, stiwdio animeiddio leol. Ti’n weithredwr gwych, ond mewn gwewyr, ar aseiniad terfynol gwbl anobeithiol. Casgla dy rwydwaith toredig, datgysyllta’r we o gelwyddau, ond profa dy hun ar lwyfan y byd – neu ffrwydra’r cyfan unwaith yn rhagor.



Kotatsu character image announcing a mystery prize for the raffle

Gwobr Dirgel

Trwy garedigrwydd Noddwr Dienw

Diolch i’n cefnogwr caredig, mae gennym anrheg wych i chi eleni. Dydyn ni ddim am roi unrhyw gliwiau, felly dewch i’n gŵyl i ddarganfod mwy!


Peidiwch â’m hanghofio

Trwy garedigrwydd Sarah Cliff


Pinnau Pren

Trwy garedigrwydd Pigeon

Pinnau pren annwyl yn cynnwys picls a thorth fach.


Hylif Shio Koji

Trwy garedigrwydd Hanamaruki Foods Inc

Mae “Koji” yn reis brag a ddefnyddir yn y broses eplesu ar gyfer miso, sake, saws soy a bwydydd eraill. Mae Shio Koji yn atodiad bwyd Japaneaidd traddodiadol wedi’i wneud o reis koji wedi’i eplesu a halen. Dim ond blasau a lliw naturiol sydd ynddo, ac nid yw’n cynnwys unrhyw ychwanegion. Gall unrhyw un goginio ryseitiau Japaneaidd blasus yn rhwydd gyda Hylif Shio Koji. Ar gael hefyd o Siop Gwin Reis yn Llundain.


Set Blu-ray/DVD

Trwy garedigrwydd MVM Entertainment

  • Trinity Blood + Tsurune
  • Non Non Biyori Nonstop+Dog & Scissors

Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *