Crynodeb Gŵyl Kotatsu Caerdydd 2024
Sad 5ed Hydref
11:30
Sul 6ed Hyd
11:30
13:50
18:00
Raffl
18:30
Derbyniad yn y Cyntedd
Oni nodir yn wahanol, mae pob ffilm yn yr iaith Japaneaidd gydag isdeitlau Saesneg.
Am wybodaeth am docynnau cysylltwch â:
Swyddfa Docynnau Chapter ar +44 (0)29 2031 1050
Sad Hydref 6, 2024
11:30 The Concierge (PG)

Dyma ddiwrnod cyntaf Akino yn ei swydd fel concierge dan hyfforddiant yn yr “Arctic Department Store”, siop adrannol anarferol sy’n darparu ar gyfer anifeiliaid yn unig. O dan lygaid craff y rheolwr llawr a’r uwch concierges, mae Akino yn cael ei phrofi gan gwsmeriaid sydd ag anghenion a phroblemau di-ri wrth iddi ddilyn ei nod o fod yn concierge profiadol.
Japan | 2023 | 70m | PG | Yoshimi Itazu | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg
13:05 City Hunter the Movie: Angel Dust + HIDARI Ffilm fer (15)

Pan fydd tynged yn wynebu Ryo Saeba, mae pennod olaf City Hunter yn dechrau!
Mae “Angel Dust” yn dechnoleg ddrwg sy’n troi ei defnyddwyr yn filwyr goruwchddynol. Mae llofruddion yn cyrraedd Tokyo i gael gafael ar fodel diweddaraf yr Angel Dust. Mae’r frwydr dros y ddyfais waharddedig a gymerodd fywyd Hideyuki Makimura, cyn bartner Ryo, yn arwain Ryo a’i bartner Kaori i frwydr dyngedfennol…!
“Mae brwydr dyngedfennol Ryo Saeba yn cychwyn!”
Japan | 2023 | 94m | 15 | Kazuyoshi Takeuchi | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg

HIDARI
Mae straeon wedi eu hadrodd am grefftwr chwedlonol yn ystod y cyfnod Edo o’r enw Jingoro Hidari. Heddiw, mae cerfluniau achrededig i Jingoro i’w gweld ledled Japan, ond nid yw ei fodolaeth wedi’i gadarnhau eto. Ar ôl colli ei riant maeth a’i fraich dde i frad ei uwch brentisiaid, mae Jingoro ar daith o ddial gyda braich brosthetig fecanyddol a’i gymar “Sleeping Cat.” Yn fuan daeth pobl i’w alw’n Jingoro “Hidari” oherwydd ei allu i ddefnyddio ei offer gwaith coed yn gelfydd gyda’i fraich chwith yn unig (“hidari” yn golygu “chwith” yn Japaneaidd). Yn olaf, mae Jingoro yn wynebu un o’i wrthwynebwyr “Inumaru” ac mae’r llenni’n codi ar frwydr hyd farwolaeth.
Japan | 2023 | 5m32s | Masashi Kawamura, Iku Ogawa | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg

KAWAMURA Masashi [Cysyniad gwreiddiol / Ysgrifennwr Sgrin / Cyfarwyddwr]
Masashi yw prif swyddog creadigol Whatever Co.
Masashi yw prif swyddog creadigol Whatever Co.
Sefydlodd PARTY yn 2011, ac ar ol cyfnod yn gweithio fel pennaetheu stiwdios yn Efrog Newydd a Taipei, symudodd ymlaen i gychwyn cwmni Whatever Co. yn 2018. Enillodd dros 100 o wobrau ledled y byd, gan gynnwys Cannes Lions, ac fe’i enwebwyd gan gylchgrawn Creativity fel un o’u ‘Creative 50”. Fe’i dewisiwyd fel un o’r 100 person mwyaf creadigol ym myd busnes gan gwmni Fast Company ac yn un o’r “100 o bobl yn torri allan o Japan” gan gylchgrawn AERA.
OGAWA Iku [Dylunydd cymeriad / Cyd-gyfarwyddwr]
Dechreuodd Iku animeiddio stop-symud tra’n fyfyriwr graddedig ym Mhrifysgol Genedlaethol Celfyddydau Cain a Cherddoriaeth Tokyo ac ymunodd â chwmni dwarf ar ôl graddio. Wrth weithio ar ei ben ei hun fel cyfarwyddwr cymeriadau gwreiddiol a phrosiectau byr, cymerodd rôl fel cyfarwyddwr cynorthwyol yn nghyfres gyntaf Netflix o Rilakkuma, sef “Rilakkuma and Kaoru” fel, a bu’n gweithio ar yr ail dymor “Rilakkuma’s Theme Park Adventure” fel cynorthwyydd cyffredinol a chyfarwyddwr pennod. “Tuna in a Empty Can” NHK yw ei gyfres fer hollol wreiddiol.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel cyfarwyddwr cyfres ar brosiect newydd sbon.
16:00 Short Film Programme : New Chitose Airport International Animation Festival + Jero11 Live (U)
Detholiad o ffilmiau byr wedi’u hanimeiddio gan gyfarwyddwyr Japaneaidd wedi’u curadu o Ŵyl Animeiddio Rhyngwladol Maes Awyr Chitose Newydd.

JERO11
Gitarydd yw JERO11 sy’n chwarae’r shamisen hefyd ac yn cyfansoddi roc offerynnol, wedi’i ysbrydoli gan offeryniaeth draddodiadol Japaneaidd. Mae JERO11 yn cynhyrchu cerddoriaeth wreiddiol ac yn trefnu cloriau roc o Anime, VOCALOID, gêm fideo a cherddoriaeth shamisen. Yn y sesiwn hon bydd yn perfformio darnau traddodiadol i’r shamisen gyda thinc modern gan ddefnyddio ei focs-shamisen trydan wedi ei greu â llaw ganddo.

Autumn from Antonio Vivaldi “The Four Seasons”
Annwyl Mr Vivaldi, Yn gyntaf, ymddiheuraf am osod eich cerddoriaeth i gelfyddyd animeiddio heb eich caniatâd. Ymhellach, gwn ei fod yn rhyfygus gennyf i greu fy nehongliadau fy hunan o’ch gwaith a chyflwyno dyfrgwn ac anifeiliaid amrywiol eraill nad oedd gennych mewn golwg, rwy’n siwr. Ond, roeddwn wir yn teimlo awydd cryf i ddefnyddio anifeiliaid wrth ddelweddu eich gwaith, sy’n portreadu gweithgareddau dynol a osodwyd yn yr hydref. Roeddwn i eisiau darlunio “hydref” sy’n cynnwys y cwbl – bodau dynol ac anifeiliaid, helwyr a’r rhai sy’n cael eu hela, breuddwydion a realiti. Rwy’n gwerthfawrogi eich dealltwriaeth. Yn gywir, Atsushi Wada
Japan | 2017 | 11m10s | Atsushi Wada | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg

Ganed yn 1980. Graddiodd o Brifysgol Osaka Kyoiku, ac o Fforwm Delwedd Sefydliad Delwedd Symudol a Phrifysgol Celfyddydau Tokyo. Dechreuodd greu’r gweithiau animeiddio byr mewn hunan-astudiaeth o 2002. Mae In a Pig’s Eye (2010) wedi’i henwebu yn Zagreb, Annecy, Hiroshima, ac Ottawa, ac enillodd y Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilm Animeiddio Ryngwladol Fantoche. Perfformiwyd The Mechanism of Spring (2010) am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Fenis ac enillodd The Great Rabbit (2012) yr Arth Arian yng Ngŵyl Ffilm Berlin.

In the Big Yard Inside the Teeny-Weeny Pocket
Pan fydd yn crebachu, mae’n ehangu. Mae’n arnofio a mae’n suddo. Mae’n gwahanu ond yn cysylltu. Pan dwi’n meddwl fy mod i’n eu gwylio, maen nhw’n fy ngwylio i mewn gwirionedd. Rhigwm animeiddio swynol sy’n plethu’r dyddiau niferus o arsylwi, recordio ac arbrofi.
Japan | 2022 | 6m37s | Yoko Yuki | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg

Yn anedig o Aichi, Japan, mae hi bellach wedi sefydlu ei hun yn Tokyo.
Wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau bob dydd, mae hi’n creu ffilmiau animeiddiedig mewn amrywiol ddefnyddiau. Ei phrif weithiau yw “See ya Mr.Banno!” sydd wedi ei seilio ar atgofion anelwig a rhyfedd o’i phlentyndod,
“Zdravstvuite!” sy’n cyfleu diwrnod gyda pherson dieithr mae hi’n cwrdd mewn tre gan môr, “A Snowflake into the Night,” wedi ei addasu o gerdd gan yr artist cyfoes Tomoko Konoike, a’r fideo gerddorol “ShalaBonBon” a gyd-gynhyrchwyd gyda’r cerddor BonnouShimizu.

A Bite of Bone
Yma mae merch fach yn myfyrio am ei haf olaf gyda’i thad yn ystod ei angladd. Wedi’i gosod ar ynys fechan yn Japan lle cafodd y cyfarwyddwr ei eni a’i fagu, mae’r ffilm yn archwilio’r berthynas rhwng marwolaeth ei thad a’r storfa fomiau a leolir yn y mynydd tu ôl gartre’r teulu.
Japan | 2021 | 9m45s | Honami Yano | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg

Ganed Honami Yano ar ynys fechan yn Japan. Yn ystod ei blynyddoedd coleg yn Kyoto, aeth ar raglen gyfnewid i Ysgol Ddylunio Rhode Island. Derbyniodd radd meistr ym Mhrifysgol Celfyddydau Tokyo, Ysgol Ffilm a Chyfryngau Newydd i Raddedigion. Wedi graddio, bu’n gweithio yno fel cynorthwy-ydd ymchwil am dair blynedd.

Estrange
Ar drothwy ei phriodas, mae ffrind gorau Miyo, a wahoddwyd i’r parti, yn torri pob cyswllt gyda hi. Gan sylweddoli bod gan gyfeillgarwch oes fyr-hoedliog, mae Miyo yn myfyrio am y dyddiau pan oeddent yn ifanc ac yn llawen..
Japan | 2021 | 6m15s | Kazuki Sekiguchi | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg

Born in Tokyo, Japan, 1991. Graduated from Tama Art University and Tokyo University of the Arts. Started working as a freelance animation filmmaker from 2018. Making Animations about animal characters with soft drawn lines and individual humor.

SHISHIGARI
Yn ddwfn ym mynyddoedd y gogledd, mae ‘na bobl sydd wedi bod yn byw gyda bendithion y mynyddoedd. Mae bachgen, sy’n dod i oed, yn teithio i’r mynyddoedd ar gyfer ei helfa gyntaf. Rhaid iddo ddod o hyd i’r “Kuroshishi.” Yn y mynydd dim ond llinell denau iawn sydd rhwng byw a marw. Weithiau, bydd natur yn dangos ei dannedd hir..
Japan | 2019 | 16m57s | Kiyotaka Oshima | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg

Ganed ym 1982. Animeiddiwr, cyfarwyddwr animeiddio, a Phrif Swyddog Gweithredol Studio Durian. Denodd sylw am ei waith yn “COIL A CIRCLE OF CHILDREN” (2007), ac ers hynny, mae wedi bod yn ymwneud â llawer o gynyrchiadau anime theatrig fel “EVANGELION: 2.0 YOU CAN (NOT) ADVANCE” (2009) a “Y Gwynt yn Codi” (2013).
Roedd yn gyfarwyddwr animeiddio ar gyfer “Fullmetal Alchemist: The Sacred Star of Milos” (2011) ac roedd yn gyfrifol am y sgript, y bwrdd stori, cyfarwyddo a’r animeiddiad allweddol i gyd ar ei ben ei hunan ar gyfer pennod 18 o “SPACE DANDY Season 2” (2014). Cyfarwyddodd yr animeiddiad teledu “Flip Flappers” (2016) am y tro cyntaf. Sefydlodd STUDIO DURIAN gyda Yuki Nagano yn 2017.
17:50 Lonely Castle in the Mirror (12A)

Mae alltud swil Kokoro wedi bod yn osgoi ysgol ers wythnosau pan mae hi’n darganfod porth yn nrych ei hystafell wely. Mae’n ymestyn drwyddo ac yn cael ei chludo i gastell hudolus lle mae chwe myfyriwr arall yn ymuno â hi. Pan fydd merch mewn mwgwd blaidd yn esbonio ei bod wedi cael ei gwahodd i chwarae gêm, rhaid i’r bobl ifanc yn eu harddegau arddegau weithio ar y cyd i ddatgelu’r cysylltiad dirgel sy’n eu huno. Fodd bynnag, bydd unrhyw un sy’n torri’r rheolau yn cael ei fwyta gan flaidd. Gan y cyfarwyddwr clodwiw Keiichi Hara (Colorful, Miss Hokusai) ac yn seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Mizuki Tsujimura.
Japan | 2022 | 116m | 12A | Keiichi Hara | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg
Sul Hydref 6, 2024
11:30 Millennium Actress (PG)

Gyda’r Stiwdios Ginei enwog yn cau i lawr a’u hadeiladau ar fin cael eu dymchwel, mae’r gwneuthurwr ffilmiau Genya Tachibana yn mynd ati i goffáu’r foment hanesyddol hon drwy gyfweld â chyn-seren y stiwdio –Chiyoko Fujiwara sydd bellach yn encilgar. Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl iddi ddiflannu o amlygrwydd, mae un cwestiwn yn aros – pam y daeth ei gyrfa i ben ac iddi diflannu pryd oedd ei phwerau action yn eu anterth?
Wrth i Chiyoko adrodd ei stori, mae Genya a’i ddyn camera yn cael eu tynnu i mewn i daith eang trwy lens ei ffilmiau. Mae cyfweliadau ac atgofion, actio a realiti, i gyd yn pylu i mewn i un tapestri cyfoethog o fywyd rhyfeddol.
Japan | 2001 | 87m | PG | Satoshi Kon, Kô Matsuo | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg
13:50 Venus Wars (12)

Pan ddaeth comed iâ i’r blaned Fenws, gan dirffurfio ei hawyrgylch gwenwynig yn un a allai gynnal bywyd dynol, daeth breuddwyd dynolryw o wladychu bydoedd eraill yn realiti. Yn anffodus i’r gwladychwyr, nid Venus yw’r baradwys ‘roeddent wedi breuddwydio amdani. Wrth i gnydau fethu ac wrth i gystadleuaeth am adnoddau ddwysau, mae gelyniaeth yn tyfu nes bod y ddau gyfandir cyfannedd ar fin rhyfel.
Japan | 1989 | 103m | 12 | Yoshikazu Yasuhiko | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg
16:00 Komada – A Whisky Family (12)

Mae Kotaro, golygydd newydd ar gyfer newyddion gwe, yn ymweld â Distyllfa Komada ar gyfer prosiect ar wisgi crefft Japaneaidd. Dan arweiniad yr arlywydd benywaidd ifanc, Rui, a gymerodd y busnes teuluol ymlaen yn ddiweddar, mae’r ddistyllfa yn gweithio’n galed i atgynhyrchu ei brif wisgi KOMA y bu’n rhaid iddynt ei ddileu flynyddoedd yn ôl. Roedd KOMA yn frand ‘roedd teulu Rui yn ymfalchïo ynddo ac yn symbol o hapusrwydd i bawb. Fodd bynnag, heb gefnogaeth ariannol, mae gormod o elfennau ar goll i adfywio’r wisgi ar ôl ei golli am gyhyd. Mae Rui, Kotaro, a chefnogwyr y ddistyllfa yn tynnu pob llinyn ynghyd i atgyfodi’r wisgi llawn atgofion teuluol.
Japan | 2023 | 91m | 12 | Masayuki Yoshihara | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg
18:00 Raffl

Bydd tocynnau ar gyfer raffl eleni ar gael yn ystod yr ŵyl, ar stondin Kotatsu.
Tocynnau yn 50c yr un.
Ceir manylion llawn y gwobrau ar ein tudalen raffl.
18:30 Derbyniad yn y Cyntedd
19:30 Mobile Suit Gundam SEED Freedom (15)

Yn OG 75, mae’r ymladd yn parhau. Mae ‘na fudiadau annibyniaeth, ac ymosodiadau gan Blue Cosmos… Er mwyn tawelu’r sefyllfa, sefydlir asiantaeth monitro heddwch byd-eang o’r enw COMPASS, gyda Lacus fel ei llywydd cyntaf. Fel aelodau o COMPASS, mae Kira a’i gymrodyr yn ymyrryd mewn amrywiol frwydrau rhanbarthol. Yna mae cenedl newydd ei sefydlu o’r enw Foundation yn cynnig ymgyrch ar y cyd yn erbyn cadarnle Blue Cosmos.
Japan | 2024 | 126m | 15 | Mitsuo Fukuda | Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg
Marchnad 11am – 6pm
Kotatsu Festival Stand
Detholiad o nwyddau sy’n gysylltiedig â Kotatsu, comics, DVDs gyda phris fforddiadwy. Bydd yr holl arian a godir ar y stondin hon yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r ŵyl y flwyddyn nesaf. Er mwyn lleihau’r defnydd o fagiau plastig, dewch â’ch bagiau a’ch pocedi poli eich hun os yn bosibl.
Wazakka

Amrywiaeth o eitemau wedi’u gwneud â llaw fel bagiau a chodenni.
Japan-bits

Detholiad o gymeriadau amigurumi (crosio) a nwyddau cysylltiedig â Japan.
Jero11 (Saturday only)

Mae JERO11 yn gitarydd sy’n chwarae’r shamisen ac yn cyfansoddi roc offerynnol wedi’i ysbrydoli gan offeryniaeth draddodiadol Japaneaidd. Bydd yn gwerthu nwyddau swyddogol JERO11 gan gynnwys crysau-T, cryno ddisgiau, plectrums a mwy! Cewch gyfle i weld y bocs trydan a greodd i’r shamisen, yn ogystal â’i holi am gerddoriaeth Japaneaidd!
(Dydd Sadwrn yn unig)
Bydd y Caligraffydd Japaneaidd Yukiko Ayres (Dydd Sul yn unig)

Bydd y Caligraffydd Japaneaidd Yukiko Ayres 惠杏壽昌鶴 yn arddangos celfyddyd ‘Shodo’ trwy gydol y dydd ac yn cynnig cyfle i chi gael cofeb ganddi o’ch enw neu air sy’n arbennig i chi mewn sgript Japaneaidd wedi ei greu gyda brwsh ac inc.
Manga Kissa (Manga Café)

Mae gennym amrywiaeth eang o manga a deunyddiau darllen. Beth am bori a setlo i lawr am ychydig o ddarllen? Rydym yn gwneud ein gorau i fod yn gynaliadwy, a fyddech cystal ag ystyried rhoi eich comics/llyfrau/DVDs hoff i ni.
Peidiwch â mynd ag unrhyw un o’r llyfrau adref gyda chi. Gallwch eu prynu am bris fforddiadwy os dymunwch.
Gwobr Beirniaid Ffilm Kotatsu 2024
Bydd ffilmiau Kotatsu 2024 yn cael eu beirniadu gan banel o dri beirniad.
Nia Alavezos

Mae Nia Alavezos yn gyfarwyddwr, awdur a chynhyrchydd animeiddio sydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru. Yn wreiddiol o America, gwnaeth y bererindod fawr ar draws Fôr yr Iwerydd yn 2019 i wireddu ei breuddwydion o fyw dramor. Yn flaenorol bu’n gweithio gyda DreamWorks Animation, ond bellach mae hi’n Reolwr Cynhyrchu Creadigol yn Stiwdios Sun & Moon.
Comisiynwyd ei ffilm fer gyntaf, Passenger, gan Ffilm Cymru Wales, BBC Cymru, a Rhwydwaith BFI Cymru yn 2022. Yn ddiweddar, gorffennodd Nia gynhyrchu ffilm arall a ariannwyd gan Ffilm Cymru, Specter of the Bear, sydd bellach ar gylchdaith y gwyliau ffilm. Pan nad yw Nia yn gor-wylio anime, yn dysgu’r iaith Japaneaidd, nac yn meddwl am ei syniad ffilm nesaf, mae’n parhau i dreulio ei hamser yn cydweithio â thalent leol Gymreig a’u helpu i greu eu peilotiaid teledu a ffilmiau byr.
Gustavo Arteaga

Mae Gustavo yn animeiddiwr stop-symud sy’n byw yng Nghymru. Fe’i hyfforddwyd yn ei swydd yn Stiwdio Bolex Brothers (DU) a NukuFilms Studio (Estonia). Enillodd y wobr “Ffilm Brydeinig Orau” yng Ngŵyl Animeiddio Ryngwladol Llundain ’09 yn ogystal a llu o gydnabyddiaethau eraill. Mae’n gyn-fyfyriwr Berlinale Talents, ac yn gyfrannwr cyson ar y gylchdaith ffilm ryngwladol. Eleni mae ei waith wedi ei gyflwyno yn Animafest Zagreb, Filmfest Dresden, KinoForum São Paulo, a Thymor Animeiddio Hiroshima , yn ogystal a llawer o wyliau eraill. Enillodd radd MA mewn Animeiddio o Brifysgol Casnewydd ac mae’n dysgu Stop-motion ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd.
Prof. Emeritus Masaaki Mori

Artist Animeiddio ac Athro Emeritws o Brifysgol Tokyo Zokei
Ganed yn nhalaith Shizuoka yn 1955. Yn ystod ei flynyddoedd yn y brifysgol, fe ddysgodd ei hunan i gynhyrchu animeiddiadau pypedau stop-symud gan ddefnyddio ffilm 8mm. O ganlyniad enillodd enw da iddo’i hun yn y maes a’i sbardunodd i ganolbwyntio ar animeiddio. Ar ôl graddio, bu’n gweithio mewn cwmni masnachol yn cynhyrchu gwaith animeiddio; yno creodd ystod eang o hysbysebion gydag effeithiau arbennig, gan ddefnyddio technegau animeiddio, o cel i CGI cynnar a rheoli symudiadau. Pryd hynny darganfu swyn animeiddio gyda chymeriadau wedi eu llunio â llaw o glai, ac aeth i weithio ar ei liwt ei hun gan sefydlu ei gwmni ei hun. Mae o wedi creu nifer o animeiddiadau clai, gan gynnwys hysbysebion ac animeiddiadau sy’n agor rhaglenni teledu.